1 Brenhinoedd 10:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi � chwestiynau caled.

2Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn � camelod yn cludo peraroglau a st�r fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,

3ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi.

4A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tu375? a adeiladodd,

5ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.

6Addefodd wrth y brenin, "Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb.

7Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld �'m llygaid fy hun � ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais.

8Gwyn fyd dy wu375?r, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb.

9Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar orseddfainc Israel. Am i'r ARGLWYDD garu Israel am byth, y mae wedi dy roi di'n frenin, i weinyddu barn a chyfiawnder."

10Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni chafwyd byth wedyn gymaint o beraroglau ag a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.

11Byddai llynges Hiram yn dod ag aur o Offir; byddai hefyd yn cludo o Offir lawer iawn o goed almug a gemau.

12Gwnaeth y brenin fracedau i du375?'r ARGLWYDD ac i du375?'r brenin o'r coed almug, a hefyd delynau a nablau i'r cantorion. Ni ddaeth ac ni welwyd cystal coed almug hyd heddiw.

13Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwen-ychodd, yn ychwaneg at yr hyn a roddodd iddi o'i haelioni brenhinol. Yna troes hi a'i gosgordd yn �l i'w gwlad.

14Yr oedd pwysau'r aur a dd�i i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau,

15heblaw yr hyn a g�i gan y march-nadwyr ac o enillion masnachwyr, ac oddi wrth holl frenhinoedd Arabia a'r rheolwyr talaith.

16Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chant o siclau aur ym mhob tarian.

17Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un; a rhoddodd y brenin hwy yn Nhu375? Coedwig Lebanon.

18Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro �'r aur coethaf.

19Yr oedd chwe gris i'r orseddfainc, pen ych ar gefn yr orseddfainc, dwy fraich o boptu i'r sedd, a dau lew yn sefyll wrth y breichiau.

20Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris.

21Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas. Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tu375? Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.

22Yr oedd gan y brenin ar y m�r longau Tarsis gyda llynges Hiram, ac unwaith bob tair blynedd fe dd�i llongau Tarsis �'u llwyth o aur, arian, ifori, epaod a pheunod.

23Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb.

24Ac yr oedd y byd i gyd yn ymweld � Solomon i glywed y ddoethineb a roddodd Duw yn ei galon.

25Bob blwyddyn d�i rhai �'u rhoddion � llestri arian ac aur, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod.

26Casglodd Solomon gerbydau a meirch; ac yr oedd ganddo fil a phedwar cant o gerbydau a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chyda'r brenin yn Jerwsalem.

27Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem � cherrig, a chedrwydd mor gyffredin � sycamorwydd y Seffela.

28o'r Aifft a Cu373?e y d�i ceffylau Solomon, a byddai porthmyn y brenin yn eu cyrchu o Cu373?e am bris penodedig.

29Byddent yn mewnforio cerbyd o'r Aifft am chwe chant o siclau arian, a cheffyl am gant a hanner, ac yn eu hallforio i holl frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.

rticle>