1Yn y flwyddyn pedwar cant wyth deg ar �l i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad ar Israel, ym mis Sif, yr ail fis, dechreuodd Solomon adeiladu tu375?'r ARGLWYDD.
2Yr oedd y tu375? a adeiladodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD yn drigain cufydd ei hyd, yn ugain cufydd ei led ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder.
3Yr oedd y cyntedd o flaen corff y tu375? yn ugain cufydd ei hyd, gyda lled y tu375?, a deg cufydd o led o flaen y tu375?.
4A gwnaeth ffenestri i'r tu375? yn goleuo at i lawr trwy ddelltwaith.
5Cododd adeilad yn erbyn mur y tu375? o gylch corff y tu375? a'r cysegr mewnol; a gwnaeth fwtresi o amgylch.
6Yr oedd y celloedd isaf yn bum cufydd o led, y rhai canol yn chwe chufydd, a'r drydedd res yn saith gufydd, oherwydd gwnaeth rabadau oddi allan i'r tu375? o amgylch fel na rwymid y trawstiau ym muriau'r tu375?.
7Adeiladwyd y tu375? o gerrig wedi eu cyweirio yn y chwarel, fel nad oedd su373?n morthwyl na neddau nac unrhyw erfyn haearn i'w glywed yn y tu375? wrth ei adeiladu.
8Ar ochr dde'r tu375? yr oedd y mynediad i'r llawr isaf, gyda grisiau tro yn esgyn i'r llawr canol ac o'r un canol i'r trydydd.
9Wedi iddo orffen ei adeiladu, coediodd y tu375? � thrawstiau ac ystyllod o gedrwydd.
10Cododd adeilad pum cufydd ei uchder yn erbyn yr holl du375?, a'i gydio wrth y tu375? � chedrwydd.
11Daeth gair yr ARGLWYDD at Solomon, gan ddweud,
12Ynglu375?n �'r tu375? hwn yr wyt yn ei adeiladu, os bydd iti rodio yn fy neddfau a chyflawni fy marnedigaethau a chadw fy holl orchmynion a'u dilyn, yna cyflawnaf iti yr addewid a wneuthum i'th dad Dafydd;
13a thrigaf ymysg plant Israel, ac ni adawaf fy mhobl Israel."
14Adeiladodd Solomon y tu375? a'i orffen;
15a byrddiodd barwydydd y tu375? ag ystyllod cedrwydd, a'u coedio o'r llawr hyd dulathau'r nenfwd, a llorio'r tu375? � phlanciau ffynidwydd.
16Caeodd ugain cufydd yn nhalcen y tu375? ag ystyllod cedrwydd, o'r llawr hyd y tulathau, a'i neilltuo iddo'i hun yn gysegr mewnol, i fod yn gysegr sancteiddiaf.
17Yr oedd y tu375?, sef corff y deml o flaen y cysegr mewnol, yn ddeugain cufydd o hyd.
18Yr oedd y cedrwydd y tu mewn i'r tu375? wedi eu cerfio'n gnapiau ac yn flodau agored; yr oedd yn gedrwydd i gyd, heb garreg yn y golwg.
19Darparodd y cysegr mewnol yn y man nesaf i mewn yn y tu375? i dderbyn arch cyfamod yr ARGLWYDD.
20Yr oedd y cysegr mewnol yn ugain cufydd o hyd, ugain o led ac ugain o uchder, a goreurodd hi ag aur pur; gwnaeth hefyd allor gedrwydd.
21Goreurodd Solomon y tu375? oddi mewn ag aur pur, a gosododd gadwyni aur ar draws, o flaen y cysegr mewnol a oreurwyd.
22Gwisgodd yr holl du375? o'i gwr ag aur, a'r allor i gyd, a oedd yn perthyn i'r cysegr mewnol.
23Yn y cysegr mewnol gwnaeth ddau gerwb, deg cufydd o uchder, o bren olewydd.
24Yr oedd dwy adain y naill gerwb yn bum cufydd yr un, sef deg cufydd o flaen un adain i flaen y llall.
25Yr oedd yr ail gerwb yn ddeg cufydd hefyd, gyda'r un mesur a'r un ffurf i'r ddau.
26Deg cufydd oedd uchder y naill a'r llall.
27Gosododd y cerwbiaid yng nghanol y cysegr mewnol. Yr oedd eu hadenydd ar led, ac adain y naill yn cyffwrdd ag un pared ac adain y llall yn cyffwrdd �'r pared arall, a'u hadenydd yn cyffwrdd �'i gilydd yn y canol.
28Yr oedd wedi goreuro'r cerwbiaid.
29Cerfiodd holl barwydydd y cysegr mewnol o amgylch � lluniau cerwbiaid a phalmwydd a blodau agored, y tu mewn a'r tu allan;
30a goreurodd lawr y cysegr mewnol oddi mewn ac oddi allan.
31Gwnaeth ddorau o goed olewydd i fynedfa'r cysegr mewnol, a'r capan a'r cilbyst yn bumochrog.
32Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored ar y ddwy dd�r o goed olewydd; wedyn goreurodd hwy, a rhedeg aur dros y cerwbiaid a'r palmwydd.
33Yn yr un modd gwnaeth gilbyst sgw�r o goed palmwydd i fynedfa corff y deml.
34Yr oedd y ddwy dd�r o goed ffynidwydd, y naill a'r llall yn ddeuddarn yn plygu ar ei gilydd.
35Cerfiodd gerwbiaid a phalmwydd a blodau agored arnynt, a'u goreuro'n gytbwys dros y cerfiad.
36Adeiladodd y cyntedd nesaf i mewn � thri chwrs o gerrig nadd ac � chwrs o drawstiau cedrwydd.
37Gosodwyd sylfaen tu375?'r ARGLWYDD ym mis Sif o'r bedwaredd flwyddyn;
38a gorffennwyd y tu375? yn �l holl ofynion y cynllun ym mis Bul (dyna'r wythfed mis) o'r unfed flwyddyn ar ddeg. Felly saith mlynedd y bu'n ei adeiladu.