1 Cronicl 11:1-47 BCN1988 - Bible AI

1Daeth holl Israel at Ddafydd i Hebron a dweud wrtho, "Edrych, dy asgwrn a'th gnawd di ydym ni.

2Gynt, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn �l wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD dy Dduw wrthyt, 'Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog arnynt.'"

3Yna daeth holl henuriaid Israel i Hebron at y brenin, a gwnaeth Dafydd gyfamod � hwy yno gerbron yr ARGLWYDD, ac eneiniwyd Dafydd yn frenin ar Israel, yn �l gair yr ARGLWYDD trwy Samuel.

4Pan aeth Dafydd a holl Israel i Jerwsalem (hynny yw, Jebus, lle'r oedd y Jebusiaid, trigolion y wlad, yn byw)

5dywedodd pobl Jebus wrth Ddafydd, "Ni chei ddod i mewn yma." Er hynny, fe enillodd Dafydd gaer Seion, sef Dinas Dafydd,

6a dywedodd, "Caiff y cyntaf i daro'r Jebusiaid ei wneud yn ben swyddog." Y cyntaf i fynd i fyny oedd Joab fab Serfia; felly cafodd ei wneud yn ben.

7Yna fe ymsefydlodd Dafydd yn y gaer, ac am hynny fe'i gelwir yn Ddinas Dafydd.

8Adeiladodd y ddinas oddi amgylch o'r Milo yn gylch cyfan, tra oedd Joab yn adnewyddu gweddill y ddinas.

9Cynyddodd Dafydd fwyfwy oherwydd bod ARGLWYDD y Lluoedd gydag ef.

10Dyma benaethiaid Dafydd, a aeth yn fwy a mwy nerthol gydag ef yn ystod ei deyrnasiad, ac a ymunodd gyda holl Israel i'w wneud ef yn frenin ar Israel yn �l gair yr ARGLWYDD.

11Dyma restr y gwroniaid oedd gan Ddafydd. Jasobeam fab Hachmoni oedd capten y Deg ar Hugain; chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben tri chant o wu375?r a laddodd ar un tro.

12Y nesaf ato ef ymysg y tri gwron oedd Eleasar fab Dodo, yr Ahohiad;

13bu ef gyda Dafydd yn Pasdammim, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, pan ymgasglodd y Philistiaid yno i ryfel ac y ffodd y bobl rhagddynt.

14Ond daliodd ef ei dir yng nghanol y llain, a'i amddiffyn a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.

15Aeth tri o'r Deg ar Hugain o benaethiaid i lawr at Ddafydd i'r graig ger ogof Adulam, pan oedd mintai o Philistiaid yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

16Yr oedd Dafydd ar y pryd yn y gaer, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.

17Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, "O na chawn ddiod o ddu373?r o bydew Bethlehem, sydd ger y porth!"

18Ar hynny, rhuthrodd y tri trwy wersyll y Philistiaid, codi du373?r o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n �l at Ddafydd. Eto, ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,

19a dweud, "Na ato Duw i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed y gwu375?r hyn a fentrodd eu heinioes i ddod ag ef i mi?" Felly gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y tri gwron.

20Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o wu375?r, a lladdodd hwy gan ennill enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.

21Yr oedd ef yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ac yn gapten arnynt; ond nid oedd i'w gymharu �'r Tri.

22Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn u373?r dewr ac aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr o Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.

23Lladdodd Eifftiwr, cawr o bum cufydd, er bod gan hwnnw waywffon fel carfan gwehydd yn ei law, ac yntau'n ymosod � dim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd �'i waywffon ei hun.

24Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.

25Yr oedd yn enwog ymhlith y Deg ar Hugain, ond nid oedd i'w gymharu �'r Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.

26Y rhain oedd y gwroniaid: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem,

27Samma yr Harodiad, Heles y Peloniad.

28Ira fab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anathothiad,

29Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,

30Maharai y Netoffathiad, Heled fab Baana y Netoffathiad,

31Itai fab Ribai o Gibea'r Benjaminiaid, Benaia y Pirathoniad,

32Hurai o Nahale-gaas, Abiel yr Arbathiad,

33Asmafeth y Bahrumiad, Eliahba y Saalboniad,

34meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan fab Sage yr Harariad,

35Ahiam fab Sachar yr Harariad, Eliffal fab Ur,

36Heffer y Mecherathiad, Aheia y Peloniad,

37Hesro y Carmeliad, Naarai fab Esbai,

38Joel brawd Nathan, Mibhar Haggeri,

39Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),

40Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

41Ureia yr Hethiad, Sabad fab Ahlai,

42Adina fab Sisa y Reubeniad (pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain),

43Hanan fab Maacha, Josaffat y Mithriad,

44Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel meibion Hothan yr Aroeriad,

45Jedidael fab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad,

46Eliel y Mahafiad, Jeribai a Josafia, meibion Elnaam, Ithma y Moabiad,

47Eliel, Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

le>