1Daethant ag arch Duw a'i gosod yng nghanol y babell a gododd Dafydd iddi, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau o flaen Duw.
2Wedi iddo orffen aberthu'r poethoffrwm a'r heddoffrymau, bendithiodd Dafydd y bobl yn enw'r ARGLWYDD,
3a rhannodd i bob un o'r Israeliaid, yn wu375?r a gwragedd, dorth o fara, darn o gig a swp o rawnwin.
4Penododd rai o'r Lefiaid i wasanaethu o flaen arch yr ARGLWYDD, i goff�u a moliannu a chlodfori ARGLWYDD Dduw Israel:
5Asaff yn gyntaf, ac ar ei �l ef Sechareia, Jeiel, Semiramoth, Jehiel, Matitheia, Eliab, Benaia ac Obed-edom. Yr oedd gan Jeiel nablau a thelynau, ac yr oedd Asaff yn canu'r symbalau.
6Yr oedd yr offeiriaid Benaia a Jahasiel i chwythu trwmpedau yn barhaus o flaen arch cyfamod Duw.
7Y pryd hwnnw y rhoddodd Dafydd am y tro cyntaf i Asaff a'i frodyr y moliant hwn i'r ARGLWYDD:
8Diolchwch i'r ARGLWYDD! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
9Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau.
10Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
11Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
12Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
13chwi ddisgynyddion Israel, ei was, chwi blant Jacob, ei etholedig.
14Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
15Cofiwch ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
16sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac,
17yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth."
19Pan oeddech yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
20yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill,
21ni adawodd i neb eich darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'ch achos,
22a dweud, "Peidiwch � chyffwrdd �'m heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi."
23Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.
24Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
25Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
26Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
27Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a llawenydd yn ei fangre ef.
28Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
29rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch o'i flaen. Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
30Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear; yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.
31Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear, a dywedent ymhlith y cenhedloedd, "Y mae'r ARGLWYDD yn frenin."
32Rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo, llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
33Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llawen o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
34Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
35Dywedwch, "Achub ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth; cynnull ni ac arbed ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd ac ymhyfrydu yn dy fawl."
36Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, "Amen", a moli'r ARGLWYDD.
37A gadawodd Dafydd Asaff a'i frodyr o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD i wasanaethu yno'n barhaol yn �l gofynion pob dydd.
38Gadawodd yno hefyd Obed-edom gyda'i wyth brawd a thrigain; Obed-edom fab Jeduthun, a Hosa, oedd i fod yn borthorion.
39Ond gadawodd ef Sadoc yr offeiriad, a'i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD yn yr uchelfa yn Gibeon,
40i aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn gyson fore a hwyr fel sy'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, a orchmynnodd ef i Israel.
41Gyda hwy yr oedd Heman, Jeduthun a'r rhai eraill oedd wedi eu hethol a'u henwi i foliannu'r ARGLWYDD am fod ei gariad hyd byth.
42Heman a Jeduthun oedd yn gofalu am yr trwmpedau a'r symbalau a'r offerynnau cerdd cysegredig ar gyfer y cantorion. A meibion Jeduthun oedd yn gofalu am y porth.
43Yna aeth pawb adref a dychwelodd Dafydd i gyfarch ei deulu.