1 Cronicl 18:1-17 BCN1988 - Bible AI

1Wedi hyn gorchfygodd Dafydd y Philistiaid a'u darostwng, a chipiodd Gath a'i phentrefi oddi arnynt.

2Yna gorchfygodd y Moabiaid, a daethant hwy yn ddeiliaid iddo gan dalu treth.

3Gorchfygodd Dafydd hefyd Hadadeser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd hwnnw ar ei ffordd i sefydlu ei awdurdod ar lan afon Ewffrates.

4Cipiodd Dafydd oddi arno fil o gerbydau, saith mil o farchogion ac ugain mil o wu375?r traed. Cadwodd Dafydd gant o feirch cerbyd, ond torrodd linynnau gar y lleill i gyd.

5Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, trawodd Dafydd ddwy fil ar hugain ohonynt.

6Yna fe osododd Dafydd garsiynau ymhlith Syriaid Damascus, a daeth y Syriaid yn weision i Ddafydd a thalu treth iddo. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr �i.

7Cymerodd Dafydd y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, a dygodd hwy i Jerwsalem.

8Hefyd, o Tibhath a Chun, trefi Hadadeser, fe gymerodd Dafydd lawer iawn o bres a ddefnyddiwyd gan Solomon i wneud y m�r pres a'r colofnau a'r llestri pres.

9Pan glywodd Toi brenin Hamath fod Dafydd wedi gorchfygu holl fyddin Hadadeser brenin Soba,

10fe anfonodd ei fab Hadoram i ddymuno'n dda i'r Brenin Dafydd a'i longyfarch am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser a'i orchfygu; oherwydd bu Hadadeser yn rhyfela'n gyson yn erbyn Toi. Anfonodd hefyd lestri o arian ac o aur ac o bres,

11a chysegrodd y Brenin Dafydd hwy i'r ARGLWYDD, yn ogystal �'r arian a'r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd, sef Edom, Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid a'r Amaleciaid.

12Lladdodd Abisai fab Serfia ddeunaw mil o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen;

13yna gosododd garsiynau yn Edom, a daeth yr Edomiaid i gyd yn ddeiliaid i Ddafydd. Yr oedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Ddafydd ple bynnag yr �i.

14Yr oedd Dafydd yn teyrnasu dros Israel gyfan, ac yn gweinyddu barn a chyfiawnder i'w holl bobl.

15Joab fab Serfia oedd dros y fyddin; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur;

16Sadoc fab Ahitub, ac Abimelech fab Abiathar yn offeiriaid; Safsa yn ysgrifennydd;

17Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd yn brif swyddogion yng ngwasanaeth y brenin.

le>