1 Cronicl 23:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Wedi i Ddafydd fynd yn hen a chyrraedd oedran teg, fe wnaeth Solomon ei fab yn frenin ar Israel.

2Yna fe gasglodd ynghyd holl arweinwyr Israel, a'r offeiriaid a'r Lefiaid.

3Rhifwyd y Lefiaid a oedd yn ddeg ar hugain oed a throsodd, a'r cyfanrif oedd deunaw mil ar hugain.

4o'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhu375?'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr,

5pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD �'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd.

6Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn �l meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.

7Meibion Gerson: Ladan a Simei.

8Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri.

9Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan.

10Meibion Simei: Jahath, Sisa, Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei,

11Jahath yn gyntaf a Sisa yn ail; ond nid oedd gan Jeus a Bereia lawer o feibion, felly cyfrifwyd hwy fel un teulu.

12Meibion Cohath: Amram, Ishar, Hebron ac Ussiel, pedwar.

13Meibion Amram: Aaron a Moses. Cafodd Aaron a'i feibion eu neilltuo am byth i sancteiddio'r cysegr sancteiddiaf ac i arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD, i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw dros byth.

14Ond yr oedd meibion Moses, gu373?r Duw, i'w cyfrif ymhlith llwyth Lefi.

15Meibion Moses: Gersom ac Elieser.

16Meibion Gersom: Sebuel yn gyntaf.

17Meibion Elieser: Rehabia yn gyntaf; nid oedd ganddo feibion eraill, ond yr oedd meibion Rehabia yn niferus iawn.

18Meibion Ishar: Selomith yn gyntaf.

19Meibion Hebron: Jereia yn gyntaf, Amareia yn ail, Jahasiel yn drydydd a Jecameam yn bedwerydd.

20Meibion Ussiel: Micha yn gyntaf a Jeseia yn ail.

21Meibion Merari: Mahli a Musi. Meibion Mahli: Eleasar a Cis.

22Bu farw Eleasar; nid oedd ganddo feibion, dim ond merched, a phriododd eu cefndyr, meibion Cis, � hwy.

23Meibion Musi: Mahli, Eder a Jerimoth, tri.

24Dyma feibion Lefi yn �l eu teuluoedd, a dyma'r pennau-teuluoedd yn �l eu swyddi ac wedi eu rhifo fesul un wrth eu henwau; yr oedd pob un ugain oed a throsodd i ofalu am waith tu375?'r ARGLWYDD,

25oherwydd i Ddafydd ddweud, "Am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi rhoi diogelwch i'w bobl, ac wedi dod i breswylio yn Jerwsalem am byth,

26nid oes rhaid mwyach i'r Lefiaid gario'r tabernacl na'r holl offer sydd ar ei gyfer."

27Yn �l geiriau olaf Dafydd yr oedd y Lefiaid ugain oed a throsodd i'w rhifo.

28Eu dyletswydd oedd cynorthwyo meibion Aaron yng ngwasanaeth tu375?'r ARGLWYDD, gofalu am y cynteddau a'r ystafelloedd, puro popeth sanctaidd ac ymgymryd � gwasanaeth tu375? Dduw.

29Yr oeddent yn gyfrifol am y bara gosod, y blawd ar gyfer y bwydoffrwm, y teisennau croyw, y bara radell, y toes wedi ei dylino, a'r holl bwysau a mesurau.

30Yr oeddent i fod yn bresennol fore a hwyr i roi mawl a chlod i'r ARGLWYDD.

31Bob tro yr offrymid poethoffrymau i'r ARGLWYDD ar Saboth, newydd-loer neu u373?yl, rhaid oedd i'r nifer dyladwy ohonynt fod ger ei fron ef.

32Yr oeddent i oruchwylio pabell y cyfamod a'r cysegr, a gweini ar eu brodyr, meibion Aaron, wrth iddynt wasanaethu yn nhu375?'r ARGLWYDD.

le>