1 Cronicl 3:1-24 BCN1988 - Bible AI

1Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles;

2y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith;

3y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla.

4Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis.

5Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar.

6Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet,

7Noga, Neffeg, Jaffia,

8Elisama, Eliada, Eliffelet, naw.

9Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.

10Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau;

11Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;

12Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;

13Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;

14Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.

15Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum.

16Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia.

17Meibion Jechoneia'r carcharor: Salathiel,

18Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, Nedabeia.

19Meibion Pedaia: Sorobabel a Simei. Meibion Sorobabel: Mesulam a Hananeia; Selomith oedd eu chwaer hwy,

20ac yna Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, Jusab-hesed, pump.

21Meibion Hananeia: Pelatia a Jesaia. Meibion Reffaia: Arnan, Obadeia, Sechaneia.

22Mab Sechaneia: Semaia. Meibion Semaia: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, Saffat, chwech.

23Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, Asricam, tri.

24Meibion Elioenai: Hodaia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Dalaia, Anani, saith.

e>