1 Cronicl 4:1-43 BCN1988 - Bible AI

1Meibion Jwda: Phares, Hesron, Carmi, Hur, Sobal.

2Reaia fab Sobal oedd tad Jahath; a Jahath oedd tad Ahumai a Lahad. Dyma dylwythau'r Sorathiaid.

3Meibion Etam: Jesreel, Isma, Idbas; enw eu chwaer oedd Haselelponi.

4Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Husa. Y rhain oedd meibion Hur, cyntafanedig Effrata, tad Bethlehem.

5Yr oedd gan Asur tad Tecoa ddwy wraig, Hela a Naara.

6Naara oedd mam Ahusam, Heffer, Temeni, Hahastari; y rhain oedd meibion Naara.

7Meibion Hela: Sereth, Jesoar, Ethnan.

8Cos oedd tad Anub, Sobeba, a thylwythau Aharhel fab Harum.

9Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen.

10Gwedd�odd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, "O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!" Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.

11Celub brawd Sua oedd tad Mehir, tad Eston.

12Eston oedd tad Beth-raffa, Pasea, Tehinna tad Irnahas. Y rhain oedd dynion Recha.

13Meibion Cenas: Othniel a Seraia; a mab Othniel: Hathath.

14Meonothai oedd tad Offra; Seraia oedd tad Joab, tad Geharashim, canys crefftwyr oeddent.

15Meibion Caleb fab Jeffunne: Iru, Ela, Naam; mab Ela: Cenas.

16Meibion Jehaleleel: Siff, Siffa, Tiria, Asareel.

17Meibion Esra: Jether, Mered, Effer a Jalon. Bitheia, merch Pharo, gwraig Mered, oedd mam Miriam, Sammai, ac Isba tad Estemoa.

18Ei wraig Jehwdia oedd mam Jered tad Gedor, Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa.

19Meibion gwraig Hodeia, chwaer Naham, oedd tad Ceila y Garmiad, a thad Estemoa y Maachathiad.

20Meibion Simon: Amnon, Rinna, Ben-hanan, Tilon. Meibion Isi: Soheth a Ben-soheth.

21Meibion Sela fab Jwda: Er tad Lecha, Laada tad Maresa (tylwythau'r rhai o Beth-asbea oedd yn gwneud lliain main);

22Jocim, dynion Choseba, a Joas a Saraff, a fu'n arglwyddiaethu ar Moab cyn dychwelyd i Fethlehem. (Y mae'r hanesion hyn yn hen.)

23Y rhain oedd y crochenyddion oedd yn byw yn Netaim a Gedera; yr oeddent yn byw yno yng ngwasanaeth y brenin.

24Meibion Simeon: Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, Saul;

25Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.

26Meibion Misma: Hamuel, Saccur, Simei.

27Yr oedd gan Simei un ar bymtheg o feibion a chwech o ferched, ond ychydig o feibion oedd gan ei frodyr; er hynny nid oedd eu holl deulu hwy wedi cynyddu cymaint � meibion Jwda.

28Yr oeddent yn byw yn Beerseba, Molada, Hasar-sual,

29Bilha, Esem, Tolad,

30Bethuel, Horma, Siclag,

31Beth-marcaboth, Hasar-susim, Beth-birei a Saaraim. Y rhain oedd eu dinasoedd nes i Ddafydd ddod yn frenin.

32Eu trefi oedd Etam, Ain, Rimmon, Tochen, Asan; pump i gyd.

33Ac yr oedd ganddynt bentrefi o gwmpas y trefi hyn hyd at Baal. Yma yr oeddent yn byw, ac yr oeddent yn cadw rhestr o'u hachau:

34Mesobab, Jamlech, Josa fab Amaseia,

35Joel; Jehu fab Josibia, fab Seraia, fab Asiel;

36Elioenai, Jaacoba, Jesohaia, Asaia, Adiel, Jesimiel, Benaia;

37Sisa fab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.

38Aeth y rhai a enwyd uchod yn benaethiaid eu teuluoedd, ac fe gynyddodd eu tylwyth yn fawr iawn.

39Daethant i fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i geisio porfa i'w defaid.

40Fe gawsant borfa fras a da mewn gwlad eang, dawel a heddychol; oherwydd rhai o dylwyth Ham oedd yn byw yno o'r blaen.

41Yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai a restrwyd ac ymosod ar bebyll Ham a'r pentrefi oedd ganddynt yno, a'u dinistrio'n llwyr hyd heddiw. Daethant i fyw yno yn eu lle am fod yno borfa i'w praidd.

42Aeth pum cant ohonynt, o lwyth Simeon, i Fynydd Seir, ac yn eu harwain yr oedd Pelatia, Nearia, Reffaia ac Ussiel, meibion Isi.

43Gorchfygasant weddill yr Amaleciaid, ac y maent yn dal i fyw yno hyd heddiw.

e>