1Meibion Issachar: Tola, Pua, Jasub a Simron, pedwar.
2Meibion Tola: Ussi, Reffaia, Jeriel, Jabmai, Jibsam a Semuel, pennau-teuluoedd. Yn nyddiau Dafydd yr oedd dwy fil ar hugain a chwe chant o ddisgynyddion Tola yn ddynion abl yn �l eu rhestrau.
3Mab Ussi: Israh�a; meibion Israh�a: Michael, Obadeia, Joel ac Isia. Yr oeddent yn bump i gyd, a phob un ohonynt yn bennaeth.
4Yn ogystal � hwy, yn �l rhestrau eu teuluoedd, yr oedd un fil ar bymtheg ar hugain o filwyr yn barod i ryfel, oherwydd yr oedd ganddynt lawer o wragedd a phlant.
5Yr oedd ganddynt frodyr yn perthyn i holl deuluoedd Issachar, dynion abl, saith a phedwar ugain mil i gyd, wedi eu cofrestru yn �l eu hachau.
6Meibion Benjamin: Bela, Becher a Jediael, tri.
7Meibion Bela: Esbon, Ussi, Ussiel, Jerimoth, ac Iri; pump o bennau-teuluoedd, a dynion abl; yn �l eu rhestrau yr oeddent yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain.
8Meibion Becher: Semira, Joas, Elieser, Elioenai, Omri, Jerimoth, Abeia, Anathoth ac Alemeth.
9Yr oedd y rhain oll yn feibion Becher, yn bennau-teuluoedd ac yn ddynion abl; yn �l rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn ugain mil a dau gant.
10Mab Jediael: Bilhan; meibion Bilhan: Jeus, Benjamin, Ehud, Cenaana, Sethan, Tarsis ac Ahisahar.
11Yr oedd y rhain oll yn feibion Jediael, yn bennau-teuluoedd, yn ddynion abl ac yn mynd allan yn fyddin i ryfel; yr oeddent yn ddwy fil ar bymtheg a deucant.
12Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, mab Aher.
13Meibion Nafftali: Jasiel, Guni, Geser a Salum, meibion Bilha.
14Meibion Manasse: Asriel, plentyn ei ordderchwraig o Syria. Hi hefyd oedd mam Machir tad Gilead;
15cymerodd Machir wraig i Huppim a Suppim, ac enw ei chwaer oedd Maacha. Enw'r ail fab oedd Salffaad, ac yr oedd ganddo ef ferched.
16Cafodd Maacha gwraig Machir fab, ac enwodd ef yn Peres a'i frawd yn Seres. Ei feibion ef oedd Ulam a Racem.
17Mab Ulam: Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
18Hammolecheth ei chwaer ef oedd mam Isod, Abieser a Mahala.
19Meibion Semida: Ah�an, Sechem, Lichi ac Aniham.
20Meibion Effraim: Suthela, Bered ei fab, Tahath ei fab yntau, Elada ei fab yntau, Tahath ei fab yntau,
21Sabad ei fab yntau, Suthela ei fab yntau, Eser, ac Elead; fe'u lladdwyd hwy gan ddynion Gath, a anwyd yn y wlad, am iddynt ddod i lawr i ddwyn eu gwartheg.
22Bu eu tad Effraim yn galaru amdanynt am amser maith, a daeth ei frodyr i'w gysuro.
23Yna aeth Effraim at ei wraig, a beichiogodd hithau ac esgor ar fab. Fe'i henwodd yn Bereia oherwydd y trybini a fu yn ei du375?.
24Ei ferch oedd Seera, ac fe adeiladodd hi Beth-horon Isaf ac Uchaf, a hefyd Ussen-sera.
25Reffa oedd ei fab ef, Reseff ei fab yntau, Tela ei fab yntau, Tahan ei fab yntau,
26Ladan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,
27Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.
28Yr oedd eu tiriogaeth a'u cartrefi ym Methel a'i phentrefi, ac i'r dwyrain yn Naaran, ac i'r gorllewin yn Geser a'i phentrefi, ac yn Sichem a'i phentrefi hyd at Aia a'i phentrefi.
29Meibion Manasse oedd berchen Beth-sean a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi; yno yr oedd meibion Joseff fab Israel yn byw.
30Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a Sera eu chwaer.
31Meibion Bereia: Heber, Malchiel, sef tad Birsafith.
32Heber oedd tad Jafflet, Somer, Hotham, a Sua eu chwaer.
33Meibion Jafflet: Pasach, Bimhal ac Asuath.
34Hwy oedd meibion Jafflet. Meibion Samer: Ahi, Roga, Jehubba ac Aram.
35Meibion Helem ei frawd: Soffa, Imna, Seles ac Amal.
36Meibion Soffa: Sua, Harneffer, Sual, Beri, Imra,
37Beser, Hod, Samma, Silsa, Ithran a Beera.
38Meibion Jether: Jeffunne, Pispa ac Ara.
39Meibion Ula: Ara, Haniel a Resia.
40Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Aser, pennau-teuluoedd, gwu375?r dethol ac abl, penaethiaid y tywysogion. Yn �l y rhestrau achau yr oedd chwe mil ar hugain o wu375?r yn barod i ryfel.