1 Samuel 11:1-15 BCN1988 - Bible AI

1Ymhen tua mis aeth Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersyllu yn erbyn Jabes-gilead. Dywedodd holl wu375?r Jabes wrth Nahas, "Gwna gytundeb � ni, ac fe'th wasanaethwn."

2Atebodd Nahas yr Ammoniad, "Ar un amod y gwnaf gytundeb � chwi � bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan."

3Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, "Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat."

4Daeth y negeswyr at Gibea Saul ac adrodd am hyn yng nghlyw'r bobl, a chododd pawb ei lais ac wylo.

5Yna daeth Saul o'r maes yn dilyn ei wedd o ychen a gofynnodd, "Beth sydd ar y bobl, yn wylo?" A mynegwyd wrtho helyntion gwu375?r Jabes.

6Pan glywodd y pethau hyn, disgynnodd ysbryd Duw ar Saul, a ffromodd yn enbyd.

7Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, "Pwy bynnag na ddaw allan ar �l Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen." Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un.

8Rhifwyd hwy yn Besec, ac yr oedd tri chan mil o Israeliaid a deng mil ar hugain o Jwdeaid.

9A dywedwyd wrth y negeswyr a ddaeth o Jabes, "Dywedwch wrth bobl Jabes-gilead, 'Erbyn canol dydd yfory cewch waredigaeth.'" Pan gyrhaeddodd y negeswyr a dweud wrth bobl Jabes, bu llawenydd.

10A dywedodd gwu375?r Jabes wrth Nahas, "Yfory down allan atoch a chewch wneud a fynnoch � ni."

11Trannoeth, rhannodd Saul y bobl yn dair mintai, a daethant i ganol y gwersyll yn ystod y wyliadwriaeth fore a tharo'r Ammoniaid hyd ganol dydd; chwalwyd y gweddill oedd ar �l, fel nad oedd dau ohonynt gyda'i gilydd.

12Yna dywedodd y bobl wrth Samuel, "Pwy oedd yn dweud, 'A gaiff Saul deyrnasu trosom?'? Dygwch y dynion, a rhown hwy i farwolaeth."

13Ond dywedodd Saul, "Ni roddir neb i farwolaeth ar y dydd hwn, a'r ARGLWYDD wedi ennill y fath fuddugoliaeth heddiw yn Israel."

14Dywedodd Samuel wrth y bobl, "Dewch, awn i Gilgal ac adnewyddu'r frenhiniaeth yno."

15Felly aeth y bobl i gyd i Gilgal, a gwneud Saul yn frenin yno yn Gilgal yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau yno o flaen yr ARGLWYDD. A bu Saul a holl wu375?r Israel yn llawen iawn yno.

e>