1Wedi i Ddafydd orffen siarad � Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun.
2Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad.
3Gwnaeth Jonathan gyfamod � Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun;
4tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys.
5Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
6Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar �l taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau,
7ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd: "Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau."
8Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, "Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?"
9o'r diwrnod hwnnw ymlaen yr oedd Saul yn cadw llygad ar Ddafydd.
10Trannoeth meddiannwyd Saul gan yr ysbryd drwg, a pharablodd yn wallgof yng nghanol y tu375?, ac yr oedd Dafydd yn canu'r delyn yn �l ei arfer.
11Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osg�dd Dafydd ef ddwywaith.
12Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul.
13Gyrrodd Saul ef i ffwrdd oddi wrtho, a'i wneud yn gapten ar fil o ddynion; ac ef oedd yn arwain y fyddin.
14Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wn�i, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.
15Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn.
16Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.
17Dywedodd Saul wrth Ddafydd, "Dyma fy merch hynaf, Merab. Fe'i rhoddaf yn wraig i ti, ond i ti ddangos gwrhydri i mi ac ymladd brwydrau'r ARGLWYDD." Meddwl yr oedd Saul, "Peidied fy llaw i �'i gyffwrdd, ond yn hytrach law y Philistiaid."
18Atebodd Dafydd, "Pwy wyf fi, a beth yw tras llwyth fy nhad yn Israel, i mi fod yn fab-yng-nghyfraith i'w brenin?"
19Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab ferch Saul i Ddafydd, rhoddwyd hi'n wraig i Adriel o Mehola.
20Syrthiodd Michal ferch Saul mewn cariad � Dafydd, a phan ddywedwyd wrth Saul, yr oedd hynny'n dderbyniol ganddo.
21Meddyliodd Saul, "Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro." A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, "Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi."
22Yna gorchmynnodd Saul i'w weision, "Dywedwch yn ddistaw bach wrth Ddafydd, 'Y mae'r brenin, weli di, yn falch ohonot, a phawb o'i weision yn dy hoffi; yn awr, prioda ferch y brenin'."
23Pan sibrydodd gweision Saul y pethau hyn yng nghlust Dafydd, dywedodd ef, "Ai dibwys o beth yn eich golwg yw priodi merch y brenin? Dyn tlawd a dinod wyf fi."
24Aeth gweision Saul �'r neges yn �l iddo, sut yr oedd Dafydd wedi dweud.
25Yna dywedodd Saul, "Dywedwch fel hyn wrth Ddafydd, 'Nid yw'r brenin yn chwennych rhodd briodas heblaw cant o flaengrwyn Philistiaid, i dalu'r pwyth i elynion y brenin'." Syniad Saul oedd peri i Ddafydd gwympo trwy law y Philistiaid.
26Cyflwynodd ei weision y neges hon i Ddafydd, ac ystyriodd y byddai'n dderbyniol iddo felly briodi merch y brenin.
27Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wu375?r, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.
28Wedi i Saul weld a sylweddoli bod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod ei ferch Michal yn ei garu,
29daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o'r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo.
30Bob tro y d�i arweinwyr y Philistiaid allan i ymladd, byddai Dafydd yn fwy llwyddiannus na phawb arall o weision Saul, ac enillodd enwogrwydd mawr.