1 Samuel 24:1-22 BCN1988 - Bible AI

1Pan ddaeth Saul yn �l o ymlid y Philistiaid, dywedwyd wrtho fod Dafydd yn niffeithwch En-gedi.

2Felly cymerodd Saul dair mil o wu375?r wedi eu dewis allan o Israel gyfan, a mynd i chwilio am Ddafydd a'i wu375?r ar hyd copa creigiau'r geifr gwylltion.

3Pan ddaeth at gorlannau'r defaid ar y ffordd, yr oedd yno ogof, ac aeth Saul i mewn i esmwytho'i gorff; ond yr oedd Dafydd a'i wu375?r yno ym mhen draw'r ogof.

4Ac meddai gwu375?r Dafydd wrtho, "Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni." Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul.

5Ond wedyn pigodd cydwybod Dafydd ef, am iddo dorri cwr mantell Saul,

6a dywedodd wrth ei ddynion, "Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw."

7Ataliodd Dafydd ei wu375?r �'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul.

8Pan ymadawodd Saul �'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei �l a dweud, "F'arglwydd frenin!" A phan edrychodd Saul yn �l, plygodd Dafydd �'i wyneb at y llawr ac ymgrymu.

9Yna dywedodd Dafydd wrth Saul, "Pam y gwrandewaist ar eiriau'r dynion sy'n dweud fod Dafydd yn ceisio niwed i ti?

10Heddiw fe weli �'th lygaid dy hun i'r ARGLWYDD dy roi yn fy llaw heddiw yn yr ogof; a dywedwyd wrthyf am dy ladd, ond trugarheais wrthyt a dweud, 'Nid estynnaf fy llaw yn erbyn f'arglwydd, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.'

11Edrych, fy nhad, ie, edrych, dyma gwr dy fantell yn fy llaw. Gan imi dorri cwr dy fantell heb dy ladd, fe ddylit wybod a gweld nad oedd dim malais na gwrthryfel ynof. Ni wneuthum gam � thi, ond eto yr wyt yn ymlid ar fy �l i'm dal.

12Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom a dial arnat, ond ni fydd fy llaw i arnat.

13Fel y dywed yr hen ddihareb, 'O'r drygionus y daw drygioni.' Ond ni fydd fy llaw i arnat.

14Ar �l pwy yr aeth brenin Israel? Pwy wyt ti'n ei ymlid? Ci marw! Chwannen!

15Fe gaiff yr ARGLWYDD fod yn ddyfarnwr a barnu rhyngom a'n gilydd; caiff ef chwilio a dadlau f'achos a'm rhyddhau o'th law."

16Wedi i Ddafydd orffen llefaru fel hyn wrth Saul, meddai Saul: "Dafydd, fy mab, ai dy lais di yw hwn?" Yna fe dorrodd allan i wylo.

17Ac meddai wrth Ddafydd, "Yr wyt ti yn fwy cyfiawn na mi, oherwydd yr wyt ti wedi talu da i mi, a minnau wedi talu drwg i ti.

18Ac yr wyt wedi dangos mor dda fuost tuag ataf heddiw, pan oedd yr ARGLWYDD wedi fy rhoi yn dy law, a thithau'n ymatal rhag fy lladd.

19Pan fydd rhywun yn dod ar warthaf ei elyn, a yw'n ei adael yn rhydd? Bydded i'r ARGLWYDD dalu'n �l iti'n hael am yr hyn a wnaethost imi heddiw.

20Mi wn, bellach, mai ti sydd i fod yn frenin, ac y bydd teyrnas Israel yn llwyddo danat;

21tynga imi'n awr yn enw'r ARGLWYDD, na fyddi'n difa fy hil ar fy �l nac yn dileu fy enw o'm teulu."

22Tyngodd Dafydd i Saul. Yna aeth Saul adref, a Dafydd a'i wu375?r i fyny'n �l i'r lloches.

e>