1 Samuel 5:1-12 BCN1988 - Bible AI

1Wedi i'r Philistiaid gipio arch Duw, dygwyd hi o Eben-eser i Asdod;

2yno dygodd y Philistiaid hi i deml Dagon, a'i gosod wrth ochr Dagon.

3Pan gododd yr Asdodiaid fore trannoeth, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD.

4Yna codasant Dagon, a'i roi'n �l yn ei le. Bore trannoeth, wedi iddynt godi, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, a phen a dwy law Dagon ar y trothwy wedi eu torri i ffwrdd, a dim ond corff Dagon ar �l ganddo.

5Dyna pam nad yw offeiriaid Dagon, na neb sy'n dod i'w deml, yn sangu ar drothwy Dagon yn Asdod hyd y dydd hwn.

6Bu llaw'r ARGLWYDD yn drwm ar yr Asdodiaid. Parodd arswyd ar Asdod a'i chyffiniau, a'u taro � chornwydydd.

7Pan welodd gwu375?r Asdod mai felly'r oedd, dywedasant, "Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni, oherwydd y mae ei law yn drwm arnom ni ac ar ein duw Dagon."

8Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, "Beth a wnawn ag arch Duw Israel?" Atebasant hwythau, "Aed arch Duw Israel draw i Gath." Felly aethant ag arch Duw Israel yno.

9Ond wedi iddynt fynd � hi yno, bu llaw'r ARGLWYDD ar y ddinas a pheri difrod mawr iawn, trawyd pobl y ddinas yn hen ac ifainc, a thorrodd y cornwydydd allan arnynt hwythau.

10Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, "Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd."

11Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, "Anfonwch arch Duw Israel yn �l i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd."

12Yr oedd ofn angau drwy'r holl ddinas am fod llaw Duw mor drwm yno, a hyd yn oed y rhai a arbedwyd rhag marwolaeth wedi eu taro �'r cornwydydd; ac esgynnai gwaedd y ddinas i'r entrychion.

>