1Wedi i Samuel heneiddio, penododd ei feibion yn farnwyr ar yr Israeliaid.
2Joel oedd ei fab hynaf, ac Abeia ei ail fab; ac yr oeddent yn barnu yn Beerseba.
3Eto nid oedd y meibion yn cerdded yn llwybrau eu tad, ond yn ceisio elw, yn derbyn cil-dwrn ac yn gwyro barn.
4Felly cyfarfu holl henuriaid Israel, a mynd at Samuel i Rama,
5a dweud wrtho, "Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath �'r holl genhedloedd."
6Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, "Rho inni frenin i'n barnu", a gwedd�odd Samuel ar yr ARGLWYDD.
7Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Gwrando ar y bobl ym mhopeth y maent yn ei ddweud wrthyt, oherwydd nid ti ond myfi y maent yn ei wrthod rhag bod yn frenin arnynt.
8Yn union fel y gwnaethant � mi o'r dydd y dygais hwy i fyny o'r Aifft hyd heddiw, sef fy ngadael a gwasanaethu duwiau eraill, felly hefyd y gwn�nt � thithau.
9Gwrando'n awr ar eu cais, ond gofala hefyd dy fod yn eu rhybuddio'n ddifrifol ac yn dangos iddynt ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnynt."
10Mynegodd Samuel holl eiriau'r ARGLWYDD wrth y bobl oedd yn gofyn am frenin ganddo,
11a dweud, "Dyma ddull y brenin a fydd yn teyrnasu arnoch: fe gymer eich meibion a'u gwneud yn gerbydwyr ac yn farchogion i fynd o flaen ei gerbyd.
12Gwna rai ohonynt yn gapteiniaid mil a chapteiniaid hanner cant, eraill i aredig ei dir ac i fedi ei gynhaeaf, ac eraill i wneud ei arfau rhyfel ac offer ei gerbydau.
13Fe gymer eich merched yn bersawresau, yn gogyddesau ac yn bobyddesau;
14cymer hefyd eich meysydd, eich gwinllannoedd a'ch gerddi olewydd gorau a'u rhoi i'w weision;
15bydd yn degymu'ch u375?d a'ch gwinllannoedd ac yn ei rannu i'w swyddogion a'i weision;
16ac yn cymryd eich llafurwyr a'ch morynion, eich bustych gorau a'ch asynnod, ar gyfer ei waith ei hun.
17Fe ddegyma'ch defaid, a byddwch chwithau'n gaethweision iddo.
18A'r dydd hwnnw byddwch yn protestio oherwydd y brenin y byddwch wedi ei ddewis; ond ni fydd yr ARGLWYDD yn eich ateb y diwrnod hwnnw."
19Gwrthododd y bobl wrando ar Samuel. "Na," meddent, "y mae'n rhaid inni gael brenin,
20i ni fod yr un fath �'r holl genhedloedd, gyda brenin i'n barnu a'n harwain i ryfel ac ymladd ein brwydrau."
21Gwrandawodd Samuel ar y cwbl a ddywedodd y bobl, a'i adrodd wrth yr ARGLWYDD.
22Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Gwrando ar eu cais, a rho frenin iddynt." A dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, "Ewch adref bob un."