2 Brenhinoedd 12:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y daeth Jehoas i'r orsedd a theyrnasodd ddeugain mlynedd yn Jerwsalem. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.

2Ar hyd ei oes gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr offeiriad Jehoiada wedi ei ddysgu.

3Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

4Dywedodd Jehoas wrth yr offeiriaid, "Cymerwch yr holl arian cysegredig sy'n dod i du375?'r ARGLWYDD, sef arian treth pob un yn �l swm y trethiant ar gyfer ei deulu a hefyd yr holl arian sy'n dod i mewn yn wirfoddol ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD;

5cymered yr offeiriaid hefyd o'r cyfraniadau a dderbyniant, ac atgyweirio pob agen ym muriau'r tu375?."

6Eto erbyn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r Brenin Jehoas nid oedd yr offeiriaid wedi atgyweirio agennau'r tu375?;

7a galwodd y Brenin Jehoas am yr archoffeiriad Jehoiada ac am yr offeiriaid, a dweud wrthynt, "Pam nad ydych wedi atgyweirio agennau'r tu375?? Yn awr, felly, nid ydych i dderbyn arian o'r cyfraniadau; y maent i'w rhoi at atgyweirio agennau'r tu375?."

8Cytunodd yr offeiriaid i beidio � derbyn arian gan y bobl i atgyweirio agennau'r tu375?.

9A chymerodd yr offeiriad Jehoiada gist, a gwneud twll yn ei chaead a'i gosod yn ymyl yr allor, ar y dde wrth fynd i mewn i du375?'r ARGLWYDD; ac yno y rhoddai'r offeiriaid oedd yn gwylio'r drws yr holl arian a ddygid i du375?'r ARGLWYDD.

10A phan welent fod llawer o arian yn y gist, byddai ysgrifennydd y brenin yn dod i fyny gyda'r archoffeiriad, yn eu rhoi mewn codau ac yna'n cyfrif yr arian a gafwyd yn nhu375?'r ARGLWYDD.

11Ar �l eu harchwilio, rhoddid yr arian i'r rhai a benodwyd i ofalu am y gwaith yn nhu375?'r ARGLWYDD; hwy oedd yn talu i'r seiri coed a'r adeiladwyr oedd yn gweithio ar du375?'r ARGLWYDD,

12hefyd i'r seiri maen a'r naddwyr cerrig, a hwy oedd yn prynu coed a cherrig nadd i atgyweirio agennau tu375?'r ARGLWYDD, ac yn gwneud pob taliad ynglu375?n � diddosi'r tu375?.

13Ni wnaed o'r arian a ddygwyd i du375?'r ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, nac unrhyw offer aur nac arian yn nhu375?'r ARGLWYDD;

14ond yn hytrach fe'u rhoed yn d�l i'r gweithwyr am atgyweirio tu375?'r ARGLWYDD.

15Ac nid oeddent yn hawlio cyfrif oddi wrth y rhai oedd yn gofalu am y gwaith ac yn cael yr arian i dalu i'r gweithwyr, am eu bod yn gweithredu'n onest.

16Ni ddefnyddid ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD arian yr offrwm dros gamwedd a phechod; eiddo'r offeiriaid oeddent hwy.

17Yr adeg honno aeth Hasael brenin Syria i ryfel yn erbyn Gath, a'i chipio, ac yna rhoi ei fryd ar ymosod ar Jerwsalem.

18A chymerodd Jehoas brenin Jwda yr holl roddion a gysegrodd ei ragflaenwyr Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, a hefyd ei roddion ei hun a'r holl aur oedd ar gael yn nhrysorfa tu375?'r ARGLWYDD a'r palas, a'u hanfon at Hasael brenin Syria; troes yntau yn �l oddi wrth Jerwsalem.

19Am weddill hanes Jehoas, a'r cwbl a gyflawnodd, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

20Gwnaeth ei weision gynllwyn yn erbyn Joas a'i ladd yn Beth-milo wrth riw Sila.

21Ei weision Josabad fab Simeath a Jehosabad fab Somer a'i lladdodd. Bu farw a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Amaseia yn frenin yn ei le.

rticle>