2 Brenhinoedd 14:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Yn ail flwyddyn Joas fab Jehoahas brenin Israel, daeth Amaseia fab Jehoas yn frenin ar Jwda.

2Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.

3Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel ei dad Dafydd; gwnaeth yn union fel ei dad Jehoas.

4Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

5Wedi iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, lladdodd y gweision oedd wedi lladd y brenin ei dad,

6ond ni roddodd blant y lleiddiaid i farwolaeth, yn unol �'r hyn sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, "Na rodder rhieni i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir un i farwolaeth."

7Trawodd Amaseia ddeng mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chymryd Sela mewn brwydr a'i enwi'n Joctheel hyd heddiw.

8Yna anfonodd genhadau at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, "Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb."

9Anfonodd Joas brenin Israel yn �l at Amaseia brenin Jwda, a dweud, "Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, 'Rho dy ferch yn wraig i'm mab.' Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.

10Gorchfygaist Edom ac aethost yn ffroenuchel. Mwynha d'ogoniant, ac aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr i'th ganlyn?"

11Ond ni fynnai Amaseia wrando; felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.

12Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.

13Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.

14Hefyd aeth �'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn y deml ac yng nghoffrau'r palas; yna cymerodd wystlon, a dychwelodd i Samaria.

15Am weddill hanes Joas, a'i wrhydri a'i frwydr yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

16Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Jeroboam yn frenin yn ei le.

17Bu Amaseia fab Jehoas, brenin Jwda, fyw am bymtheng mlynedd wedi i Jehoas fab Jehoahas, brenin Israel, farw.

18Am weddill hanes Amaseia, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

19Pan gynlluniwyd brad yn ei erbyn yn Jerwsalem, ffodd i Lachis, ond anfonwyd ar ei �l i Lachis a'i ladd yno,

20a chludwyd ef ar feirch i Jerwsalem, a'i gladdu gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd.

21Yna cymerodd holl bobl Jwda Asareia, a oedd yn un ar bymtheg oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia.

22Ef a ailadeiladodd Elath a'i hadfer i Jwda wedi i'r brenin orwedd gyda'i dadau.

23Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia fab Jehoas brenin Jwda, daeth Jeroboam fab Jehoahas brenin Israel yn frenin yn Samaria am un mlynedd a deugain.

24Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; ni throdd oddi wrth holl bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

25Adferodd oror Israel o Lebo-hamath hyd F�r yr Araba, yn unol �'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, drwy ei was Jona fab Amittai y proffwyd o Gath-heffer.

26Gwelodd yr ARGLWYDD fod cystudd Israel yn flin iawn i gaeth a rhydd fel ei gilydd, ac nid oedd neb i gynorthwyo Israel.

27Ond nid oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y dileai enw Israel yn llwyr, a gwaredodd hwy drwy Jeroboam fab Jehoahas.

28Am weddill hanes Jeroboam, a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth ymladd ac wrth adfer Damascus a Hamath-iawdi i Israel, onid yw wedi ei ysgrif-ennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

29Bu farw Jeroboam, a'i gladdu gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Sechareia yn frenin yn ei le.

rticle>