1Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd ei ddillad a rhoi sachliain amdano, a mynd i du375?'r ARGLWYDD.
2Yna anfonodd Eliacim, arolygwr y palas, a Sebna'r ysgrifennydd a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos, i ddweud wrtho,
3Fel hyn y dywed Heseceia: 'Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor.
4O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, ac y byddai yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Felly dos i weddi dros y gweddill sydd ar �l.'"
5Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia,
6dywedodd Eseia wrthynt, "Dywedwch wrth eich meistr, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist, pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.
7Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.'"
8Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.
9Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia, a dweud,
10Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, 'Paid � chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.
11Yn sicr, fe glywaist am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, sef eu difrodi. A gei di dy arbed?
12A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy � y cenhedloedd a ddinistriodd fy rhagflaenwyr, fel Gosan a Haran a Reseff, a phobl Eden oedd yn trigo yn Telassar?
13Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lair, Seffarfaim, Hena ac Ifa?'"
14Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, a gwedd�o fel hyn o flaen yr ARGLWYDD:
15O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.
16O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gw�l. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.
17Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod bren-hinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd,
18a thaflu eu duwiau i'r t�n; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.
19Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw."
20Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia, a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel;
21'Clywais yr hyn a wedd�aist ynglu375?n � Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn: Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu, yn chwerthin am dy ben; y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy �l.
22Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu? Yn erbyn pwy y codi dy lais? Yr wyt yn gwneud ystum dirmygus yn erbyn Sanct Israel.
23Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud, "Gyda lliaws fy ngherbydau dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd, i bellterau Lebanon; torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd; euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.
24Cloddiais bydewau ac yfed dyfroedd estron; � gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil.
25Oni chlywaist erstalwm mai myfi a'i gwnaeth, ac imi lunio hyn yn y dyddiau gynt? Bellach rwy'n ei ddwyn i ben; bydd dinasoedd caerog yn syrthio yn garneddau wedi eu dinistrio;
26bydd y trigolion a'u nerth yn pallu, yn ddigalon ac mewn gwarth, fel gwellt y maes, llysiau gwyrdd a glaswellt pen to wedi eu deifio cyn llawn dyfu.
27Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn eistedd, yn mynd allan ac yn dod i mewn, a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.
28Am dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn, a bod sen dy draha yn fy nghlustiau, fe osodaf fy mach yn dy ffroen a'm ffrwyn yn dy weflau, a'th yrru'n �l ar hyd y ffordd y daethost."
29'Hyn fydd yr arwydd i ti: eleni, bwyteir yr u375?d sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf, yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ond yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwin-llannoedd a bwyta eu ffrwyth.
30Bydd y dihangol a adewir yn nhu375? Jwda yn gwreiddio i lawr ac yn ffrwytho i fyny;
31oherwydd fe ddaw gweddill allan o Jerwsalem, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. S�l ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.'
32Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria: 'Ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i'w mewn; nid ymesyd arni � tharian, na chodi clawdd i'w herbyn.
33Ar hyd y ffordd y daeth, fe ddychwel; ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.
34Byddaf yn darian i'r ddinas hon i'w gwaredu, er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.'"
35A'r noson honno aeth angel yr ARGLWYDD allan a tharo yng ngwersyll Asyria gant a phedwar ugain a phump o filoedd; pan ddaeth y bore cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.
36Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno.
37Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd �'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.