1Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un ar ddeg ar hugain o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jedida merch Adaia o Boscath oedd enw ei fam.
2Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.
3Yn ei ddeunawfed flwyddyn anfonodd y Brenin Joseia ei ysgrifennydd Saffan fab Asaleia, fab Mesulam, i du375?'r ARGLWYDD a dweud,
4Dos at Hilceia yr archoffeiriad, er mwyn iddo gyfrif yr arian a ddygwyd i du375?'r ARGLWYDD ac a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl, i'w trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am du375?'r ARGLWYDD.
5Y maent i'w rhoi yn awr i'r goruchwylwyr ar du375?'r ARGLWYDD, a hwythau i'w rhoi i'r gweithwyr yn nhu375?'r ARGLWYDD, sy'n atgyweirio agennau'r tu375?,
6i gael seiri ac adeiladwyr a seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd i atgyweirio'r tu375?.
7Ond nid ydynt i roi cyfrif o'r arian a roddir i'w gofal, am eu bod yn gweithredu'n onest."
8Dywedodd yr archoffeiriad Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, "Cefais lyfr y gyfraith yn nhu375?'r ARGLWYDD." A rhoddodd y llyfr i Saffan i'w ddarllen.
9Yna aeth Saffan yr ysgrifennydd yn �l at y brenin, a dwyn adroddiad iddo, a dweud, "Y mae dy weision wedi cyfrif yr arian oedd yn y deml, ac wedi eu trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am du375?'r ARGLWYDD."
10Ac ychwanegodd, "Fe roddodd yr offeiriad Hilceia lyfr imi." Yna darllenodd Saffan ef i'r brenin.
11Pan glywodd y brenin gynnwys llyfr y gyfraith, rhwygodd ei ddillad,
12a gorchmynnodd i'r offeiriad Hilceia, ac i Ahicam fab Saffan, ac i Achbor fab Michaia, ac i'r ysgrifennydd Saffan, ac i Asaia gwas y brenin,
13Ewch i ymgynghori �'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran y bobl a holl Jwda, ynglu375?n � chynnwys y llyfr hwn a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na wrandawodd ein hynafiaid ar eiriau'r llyfr hwn, na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd ar ein cyfer."
14Aeth yr offeiriad Hilceia, ac Ahicam ac Achbor a Saffan ac Asaia, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Harhas, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,
15dywedodd hi wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dywedwch wrth y sawl a'ch anfonodd ataf,
16'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn dwyn drwg ar y lle hwn a'i drigolion, popeth sydd yn y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda,
17am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wn�nt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nid oes a'i diffydd.'
18A dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori �'r ARGLWYDD: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglu375?n �'r geiriau a glywaist:
19Am i'th galon dyneru, ac iti ymostwng o flaen yr ARGLWYDD pan glywaist fi'n dweud am y lle hwn a'i drigolion, y byddai'n ddifrod ac yn felltith, ac am iti rwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.
20Ac am hynny casglaf di at dy hynafiaid, a dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni w�l dy lygaid y drwg a ddygaf ar y lle hwn.'" Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.