1ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad, ar y degfed dydd o'r degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon gyda'i holl fyddin yn erbyn Jerwsalem, a gwersyllu yno, a chodi gwrthglawdd o'i chwmpas.
2Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r Brenin Sedeceia.
3Ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis, pan oedd newyn trwm yn y ddinas a phobl y wlad heb fwyd, bylchwyd mur y ddinas.
4A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hyn, ffodd gyda'i holl filwyr allan o'r ddinas liw nos, drwy'r porth rhwng y ddau fur sydd wrth ardd y brenin; ac er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas, ffodd y brenin i gyfeiriad yr Araba.
5Ond erlidiodd byddin y Caldeaid ar �l y brenin a'i oddiweddyd yn rhosydd Jericho, ac yr oedd ei filwyr i gyd ar chw�l.
6Felly daliwyd y brenin a'i ddwyn yn �l at frenin Babilon i Ribla, a rhoi dedfryd arno.
7Lladdasant feibion Sedeceia o flaen ei lygaid, ac yna tynnu allan ei lygaid a'i roi mewn cadwynau a'i ddwyn i Fabilon.
8Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem.
9Rhoddodd du375?'r ARGLWYDD a phalas y brenin ar d�n, a llosgi hefyd bob tu375? o faint yn Jerwsalem.
10Drylliwyd y mur o amgylch Jerwsalem gan holl fyddin y Caldeaid a oedd gyda chapten y gwarchodlu.
11Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr.
12Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr.
13Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trol�au a'r m�r pres oedd yn y deml, a mynd �'r pres i Fabilon,
14a chymryd y crochanau a'r rhawiau a'r saltringau a'r llwyau a'r offer pres i gyd a ddefnyddid yn y gwasanaethau.
15Ond cymerodd capten y gwarchodlu feddiant o'r padellau t�n a'r cawgiau oedd o aur ac arian pur.
16Ac am y ddwy golofn bres a'r m�r a'r trol�au a wnaeth Solomon i du375?'r ARGLWYDD, nid oedd yn bosibl pwyso'r pres yn yr offer hyn.
17Deunaw cufydd oedd uchder y naill golofn, a'r cnap pres arni yn dri chufydd o uchder, a rhwydwaith o bomgranadau o gwmpas y cnap, a'r cwbl o bres; ac yr oedd yr ail golofn a'i rhwydwaith yr un fath.
18Cymerodd capten y gwarchodlu Seraia yr archoffeiriad a Seffaneia yr ail offeiriad a thri cheidwad y drws;
19a chymerodd o'r ddinas swyddog a ofalai am y gwu375?r rhyfel, pump o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ysgrifennydd pennaeth y fyddin a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o bobl y wlad oedd yn parhau yn y ddinas.
20Aeth Nebusaradan capten y gwarchodlu �'r rhai hyn at frenin Babilon i Ribla.
21Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda allan o'i gwlad ei hun.
22Penododd Nebuchadnesar brenin Babilon Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan dros y bobl a adawyd ganddo yn nhir Jwda.
23Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr, fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia, daethant at Gedaleia i Mispa. Eu henwau oedd Ismael fab Nethaneia, Johanan fab Carea, Seraia fab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia fab y Maachathiad.
24Tyngodd Gedaleia wrthynt ac wrth eu milwyr, "Nid oes angen i chwi ofni swyddogion y Caldeaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd yn iawn arnoch."
25Yn y seithfed mis daeth Ismael fab Nethaneia, fab Elishama, a oedd o'r llinach frenhinol, a deg o ddynion gydag ef, a tharo'n farw Gedaleia a'r Iddewon a'r Caldeaid oedd gydag ef yn Mispa.
26Yna cododd yr holl bobl, bach a mawr, a swyddogion y lluoedd, a ffoi i'r Aifft rhag ofn y Caldeaid.
27Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn y daeth i'r orsedd, ffafr � Jehoiachin brenin Jwda, a'i ryddhau o garchar.
28Bu'n garedig wrtho a rhoi iddo sedd uwch na brenhinoedd eraill oedd gydag ef ym Mabilon.
29Newidiodd Jehoiachin o'i ddillad carchar, a chafodd fwyta'i fara'n feunyddiol gydag ef weddill ei oes,
30a chael dogn beunyddiol gan y brenin weddill ei ddyddiau.