2 Brenhinoedd 8:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Yr oedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig yr adfywiodd ei mab, "Muda oddi yma, ti a'th deulu, a dos i fyw lle medri, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi newyn, a bydd yn y wlad am saith mlynedd."

2Cychwynnodd y wraig yn �l gair gu373?r Duw, ac aeth hi a'i theulu, a byw am saith mlynedd yn Philistia.

3Ymhen y saith mlynedd, dychwelodd y wraig o Philistia a mynd at y brenin i erfyn am ei thu375? a'i thir.

4Yr oedd y brenin ar y pryd yn ymddiddan � Gehasi, gwas gu373?r Duw, ac yn dweud, "Dywed wrthyf hanes yr holl wrhydri a wnaeth Eliseus."

5Ac fel yr oedd Gehasi'n adrodd wrth y brenin amdano'n adfywio un oedd wedi marw, dyna'r wraig yr adfywiodd ei mab yn dod i erfyn ar y brenin am ei thu375? a'i thir. Ac meddai Gehasi, "F'arglwydd frenin, hon yw'r wraig, a dyma'r mab a adfywiodd Eliseus."

6Holodd y brenin hi, ac adroddodd hithau'r hanes wrtho. Yna penododd y brenin swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, "Rho'n �l iddi ei heiddo i gyd, a chynnyrch y tir hefyd o'r diwrnod y gadawodd y wlad hyd heddiw."

7Daeth Eliseus i Ddamascus. Yr oedd Ben-hadad brenin Syria yn glaf, a dywedwyd wrtho fod gu373?r Duw wedi cyrraedd.

8Yna dywedodd y brenin wrth Hasael, "Cymer rodd gyda thi, a dos at u373?r Duw i ymofyn �'r ARGLWYDD, a fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn."

9Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar �l cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, "Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, 'A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?'"

10Atebodd Eliseus, "Dos a dweud wrtho, ''Rwyt yn sicr o wella.' Ond y mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd yn sicr o farw."

11A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gu373?r Duw.

12Gofynnodd Hasael, "Pam y mae f'arglwydd yn wylo?" Atebodd, "Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw t�n i'w caerau a lladd eu hieuenctid �'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog."

13Dywedodd Hasael, "Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr � hyn?" Atebodd Eliseus, "Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria."

14Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, "Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?" Atebodd yntau, "Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella."

15Ond trannoeth cymerodd Hasael wrthban a'i drochi mewn du373?r a'i daenu dros wyneb y brenin. Bu farw, a daeth Hasael yn frenin yn ei le.

16Yn y bumed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, tra oedd Jehosaffat yn frenin ar Jwda, dechreuodd Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda, deyrnasu.

17Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am wyth mlynedd.

18Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwn�i tu375? Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

19Eto ni fynnai'r ARGLWYDD, er mwyn ei was Dafydd, ddifetha Jwda, am iddo addo rhoi lamp iddo ac i'w blant am byth.

20Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain.

21Croesodd Jehoram i Sair a'i holl gerbydau gydag ef; cododd liw nos ac ymosododd ef a'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu, ond ffodd y fyddin adref.

22Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Gwrthryfelodd Libna hefyd yr un pryd.

23Am weddill yr holl bethau a wnaeth Jehoram, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhin-oedd Jwda?

24Bu farw Jehoram, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.

25Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, yn frenin.

26Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel.

27Dilynodd yr un llwybr � thu375? Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tu375? Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i du375? Ahab.

28Aeth gyda Joram fab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead, ac anafodd y Syriaid Joram.

29Ciliodd y Brenin Joram i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.

ticle>