2 Cronicl 11:1-23 BCN1988 - Bible AI

1Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd dylwythau Jwda a Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam.

2Ond daeth gair yr ARGLWYDD at Semeia, gu373?r Duw:

3Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin,

4'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch � mynd i ryfela yn erbyn eich perthnasau; ewch yn �l adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.'" A gwrandawsant ar eiriau'r ARGLWYDD, a pheidio � mynd yn erbyn Jeroboam.

5Arhosodd Rehoboam yn Jerwsalem, ac adeiladu dinasoedd caerog yn Jwda.

6Adeiladodd Bethlehem, Etam, Tecoa,

7Beth-sur, Socho, Adulam,

8Gath, Maresa, Siff,

9Adoraim, Lachis, Aseca,

10Sora, Ajalon a Hebron, sef dinasoedd caerog Jwda a Benjamin.

11Cryfhaodd y caerau a rhoi rheolwyr ynddynt, a hefyd st�r o fwyd, olew a gwin.

12Gwnaeth bob dinas yn amddiffynfa gadarn iawn ac yn lle i gadw tarianau a gwaywffyn. Felly daliodd ei afael ar Jwda a Benjamin.

13Daeth yr offeiriaid a'r Lefiaid ato o ble bynnag yr oeddent yn byw yn Israel gyfan;

14oherwydd yr oedd y Lefiaid wedi gadael eu cytir a'u tiriogaeth a dod i Jwda a Jerwsalem, am fod Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD,

15ac wedi penodi ei offeiriaid ei hun ar gyfer yr uchelfeydd ac ar gyfer y bychod geifr a'r lloi a luniodd.

16A daeth pawb o lwythau Israel, a oedd yn awyddus i geisio ARGLWYDD Dduw Israel, ar �l y Lefiaid i Jerwsalem er mwyn aberthu i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.

17Felly cryfhasant frenhiniaeth Jwda, a chadarnhau Rehoboam fab Solomon am dair blynedd, gan ddilyn yn llwybrau Dafydd a Solomon trwy'r cyfnod hwn.

18Priododd Rehoboam � Mahalath; merch i Jerimoth fab Dafydd ac i Abihail ferch Eliab, fab Jesse oedd hi,

19ac fe roes iddo feibion, sef Jeus, Samareia a Saham.

20Ar ei h�l hi, fe gymerodd Maacha ferch Absalom, a rhoes hithau iddo Abeia, Attai, Sisa a Selomith.

21Yr oedd Rehoboam yn caru Maacha ferch Absalom yn fwy na'i holl wragedd a'i ordderchwragedd. Yr oedd ganddo ddeunaw o wragedd a thrigain o ordderchwragedd, ac fe genhedlodd wyth ar hugain o feibion a thrigain o ferched.

22Gosododd Rehoboam Abeia fab Maacha yn bennaeth ar ei frodyr, er mwyn ei wneud yn frenin.

23Bu'n ddigon doeth i wasgaru ei feibion trwy'r holl ddinasoedd caerog yn nhiriogaeth Jwda a Benjamin. Darparodd yn hael ar eu cyfer a cheisiodd lawer o wragedd iddynt.

le>