2 Cronicl 23:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yn y seithfed flwyddyn ymwrolodd Jehoiada, a gwnaeth gynghrair �'r capteiniaid, Asareia fab Jeroham, Ismael fab Jehohanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elisaffat fab Sichri.

2Aethant hwythau trwy Jwda a chasglu'r Lefiaid o bob dinas, a phennau-teuluoedd Israel, i ddod i Jerwsalem.

3Yna gwnaeth y gynulleidfa gyfan gyfamod �'r brenin yn nhu375? Dduw. Dywedodd Jehoiada wrthynt, "Dyma fab y brenin! Bydded iddo deyrnasu, fel y dywedodd yr ARGLWYDD y gwn�i meibion Dafydd.

4Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch chwi'r offeiriaid a'r Lefiaid, sy'n dod ar ddyletswydd ar y Saboth, i wylio'r pyrth;

5traean arall i aros yn nhu375?'r brenin, a thraean i fod wrth Borth y Sylfaen. Bydded i'r holl bobl aros yng nghynteddau tu375?'r ARGLWYDD.

6Nid oes neb i fynd i mewn i du375?'r ARGLWYDD ond yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd; c�nt hwy fynd am eu bod yn sanctaidd; rhaid i bawb arall gadw gorchymyn yr ARGLWYDD.

7Y mae'r Lefiaid i sefyll o amgylch y brenin, pob un �'i arfau yn ei law, a lladder pwy bynnag a ddaw i mewn i'r tu375?; byddant gyda'r brenin lle bynnag yr �."

8Gwnaeth y Lefiaid a holl Jwda bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, oherwydd nid oedd yr offeiriad Jehoiada wedi rhyddhau yr un o'r adrannau.

9Yna rhoddodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid y gwaywffyn, y tarianau a'r bwcledi a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhu375? Dduw.

10Gwnaeth i'r holl bobl sefyll i amgylchu'r brenin, pob un �'i arf yn ei law, ar draws y tu375? o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tu375?.

11Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddodd Jehoiada a'i feibion ef, a'i eneinio, a dweud, "Byw fyddo'r brenin!"

12Clywodd Athaleia drwst y bobl yn rhedeg ac yn clodfori'r brenin, a daeth atynt i du375?'r ARGLWYDD.

13Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y fynedfa, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, a'r cantorion gydag offerynnau yn arwain y moliant, rhwygodd ei dillad a gweiddi, "Brad! brad!"

14Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, "Ewch � hi y tu allan i gyffiniau'r tu375?, a lladder �'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier," meddai'r offeiriad, "�'i lladd yn nhu375?'r ARGLWYDD."

15Felly daliasant hi fel yr oedd yn cyrraedd mynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.

16Gwnaeth Jehoiada gyfamod y byddai ef ei hun a'r holl bobl a'r brenin yn bobl i'r ARGLWYDD.

17Aeth yr holl bobl at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau.

18Yna rhoddodd Jehoiada y cyfrifoldeb o edrych ar �l tu375?'r ARGLWYDD i'r offeiriaid oedd yn Lefiaid, ac a osodwyd gan Ddafydd dros du375?'r ARGLWYDD i offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD, fel y mae'n ysgrifenedig yn neddf Moses, ac i wneud hynny gyda llawenydd a ch�n yn �l trefn Dafydd.

19Gosododd y porthorion wrth byrth tu375?'r ARGLWYDD i sicrhau na fyddai neb oedd yn aflan mewn unrhyw ffordd yn mynd i mewn.

20Yna daeth Jehoiada �'r capteiniaid, y pendefigion, llywodraethwyr y bobl a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o du375?'r ARGLWYDD. Daethant trwy'r porth uchaf i'r palas, a gosod y brenin ar yr orsedd frenhinol.

21Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia �'r cleddyf.

le>