2 Cronicl 27:1-9 BCN1988 - Bible AI

1Pump ar hugain oed oedd Jotham pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa ferch Sadoc oedd enw ei fam.

2Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia, ar wah�n i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD;

3eto yr oedd y bobl yn dal i fyw yn llygredig. Ef a adeiladodd Borth Uchaf tu375?'r ARGLWYDD, ac atgyweirio rhan fawr o fur yr Offel.

4Adeiladodd ddinasoedd hefyd ym mynydd-dir Jwda, a chaerau a thyrau ar y bryniau coediog.

5Brwydrodd yn erbyn yr Ammoniaid a'u brenin, a'u trechu. Y flwyddyn honno rhoddodd yr Ammoniaid iddo gan talent o arian, deng mil corus o wenith a deng mil corus o haidd; rhoesant yr un faint iddo yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

6Ymgryfhaodd Jotham am iddo drefnu ei fywyd yn �l ewyllys yr ARGLWYDD ei Dduw.

7Am weddill hanes Jotham, ei holl ryfeloedd a'i arferion, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

8Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem.

9Bu farw Jotham, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.

e>