2 Cronicl 29:1-36 BCN1988 - Bible AI

1Pump ar hugain oed oedd Heseceia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abeia ferch Sechareia oedd enw ei fam.

2Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

3Yn y mis cyntaf o'r flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad agorodd ddrysau tu375?'r ARGLWYDD a'u hatgyweirio.

4Cynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn y sgw�r ar yr ochr ddwyreiniol,

5a dweud wrthynt, "Lefiaid, gwrandewch arnaf fi. Ym-gysegrwch yn awr, a chysegrwch du375?'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, a dewch � phob aflendid allan o'r cysegr.

6Oherwydd troseddodd ein hynafiaid, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD ein Duw, ei wrthod, a throi oddi wrth babell yr ARGLWYDD a chefnu arni.

7Hefyd caeasant ddrysau'r cyntedd a diffodd y lampau; peidiasant ag arogldarthu ac offrymu poethoffrymau yn y cysegr i Dduw Israel.

8Felly daeth llid yr ARGLWYDD ar Jwda a Jerwsalem a'u gwneud yn destun arswyd, syndod a gwatwar, fel y gwelwch �'ch llygaid eich hun.

9Ystyriwch fel y syrthiodd ein hynafiaid trwy fin y cleddyf, ac fel yr aeth ein meibion, ein merched a'n gwragedd i gaethiwed o achos hyn.

10Yn awr, yr wyf �'m bryd ar wneud cyfamod �'r ARGLWYDD, Duw Israel, er mwyn troi ei lid tanbaid oddi wrthym.

11Felly, gymrodyr, peidiwch � bod yn esgeulus, oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD chwi i sefyll ger ei fron er mwyn gweini arno ac arogldarthu iddo."

12Yna cododd y Lefiaid, sef Mahath fab Amasai a Joel fab Asareia o deulu'r Cohathiaid, Cis fab Abdi ac Asareia fab Jehaleleel o deulu Merari, Joa fab Simma ac Eden fab Joa o deulu'r Gersoniaid,

13Simri a Jeiel o deulu Elisaffan, Sechareia a Mattaneia o deulu Asaff,

14Jehiel a Simei o deulu Heman, a Semaia ac Ussiel o deulu Jeduthun.

15Cynullasant eu cymrodyr ac ymgysegru; yna aethant i buro tu375?'r ARGLWYDD yn �l gorchymyn y brenin trwy air yr ARGLWYDD.

16Aeth yr offeiriaid i mewn i du375?'r ARGLWYDD i'w buro; daethant � phopeth halogedig a oedd yn y deml allan i gwrt tu375?'r ARGLWYDD. Oddi yno aeth y Lefiaid � hwy allan i nant Cidron.

17Dechreusant sancteiddio ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf, ac erbyn yr wythfed dydd o'r mis yr oeddent wedi cyrraedd cyntedd yr ARGLWYDD. Am wyth diwrnod buont yn sancteiddio tu375?'r ARGLWYDD, a gorffen ar yr unfed dydd ar bymtheg o'r mis cyntaf.

18Yna aethant i'r palas at y Brenin Heseceia, a dweud, "Yr ydym wedi puro tu375?'r ARGLWYDD drwyddo, a hefyd allor y poethoffrwm a bwrdd y bara gosod a'u holl lestri.

19Yr ydym hefyd wedi paratoi a chysegru'r holl lestri a daflwyd allan gan y Brenin Ahas yn ystod ei deyrnasiad, pan oedd yn anffyddlon; y maent yn awr o flaen allor yr ARGLWYDD."

20Yna cododd y Brenin Heseceia yn fore, a chynnull swyddogion y ddinas a mynd i fyny i du375?'r ARGLWYDD.

21Daethant � saith bustach, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod ar ran y frenhiniaeth, y cysegr, a Jwda; a gorchmynnodd y brenin i'r offeiriaid, meibion Aaron, eu hoffrymu ar allor yr ARGLWYDD.

22Felly lladdwyd y bustych, a derbyniodd yr offeiriaid eu gwaed a'i luchio yn erbyn yr allor; wedyn lladdwyd yr hyrddod a'r u373?yn, a lluchio'r gwaed yn erbyn yr allor.

23Daethant � bychod yr aberth dros bechod o flaen y brenin a'r gynulleidfa, a gosod eu dwylo arnynt;

24yna lladdodd yr offeiriaid hwy a chyflwyno'u gwaed yn aberth dros bechod ar yr allor, i wneud cymod dros holl Israel. Oherwydd gorchmynnodd y brenin y dylid offrymu poethoffrwm ac aberth dros bechod ar ran Israel gyfan.

25Gosododd Heseceia y Lefiaid yn nhu375?'r ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau yn �l gorchymyn Dafydd, a Gad gweledydd y brenin, a Nathan y proffwyd; gorchymyn oedd hwn a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD trwy ei broffwydi.

26Safodd y Lefiaid gydag offerynnau Dafydd, a'r offeiriaid gyda'r trwmpedau.

27Rhoddodd Heseceia orchymyn i offrymu'r poethoffrwm ar yr allor; a phan ddechreuodd y poethoffrwm, fe ddechreuodd c�n i'r ARGLWYDD gyda'r trwmpedau ac offerynnau Dafydd brenin Israel.

28Yr oedd yr holl gynulleidfa yn ymgrymu, y cantorion yn canu a'r trwmpedau yn seinio; parhaodd y cwbl nes gorffen y poethoffrwm.

29Wedi gorffen offrymu, plygodd y brenin, a phawb oedd gydag ef, ac ymgrymu.

30Gorchmynnodd y Brenin Heseceia a'r swyddogion i'r Lefiaid foliannu'r ARGLWYDD yng ngeiriau Dafydd ac Asaff y gweledydd. Felly canasant fawl yn llawen, ac ymostwng ac ymgrymu.

31Dywedodd Heseceia, "Yr ydych yn awr wedi ymgysegru i'r ARGLWYDD; dewch i'w du375? gydag aberthau ac offrymau diolch." Felly dygodd y gynulleidfa aberthau ac offrymau diolch, a daeth pob un ewyllysgar � phoethoffrymau.

32Nifer y poeth-offrymau a ddygodd y gynulleidfa oedd deg a thrigain o fustych, cant o hyrddod a dau gant o u373?yn, pob un yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD;

33nifer yr offrymau cysegredig oedd chwe chant o fustych a thair mil o ddefaid.

34Ond nid oedd digon o offeiriaid i flingo'r holl boethoffrymau; felly cynorthwyodd eu brodyr y Lefiaid hwy i orffen y gwaith, nes i fwy o offeiriaid ymgysegru, oherwydd yr oedd y Lefiaid yn cymryd mwy o ofal wrth ymgysegru na'r offeiriaid.

35Yn ogystal � llawer iawn o boethoffrymau, yr oedd yno fraster yr heddoffrymau a diodoffrymau ar gyfer y poethoffrymau. Fel hyn yr ail-drefnwyd gwasanaeth tu375?'r ARGLWYDD.

36Llawenhaodd Heseceia a'r holl bobl am yr hyn a wnaeth Duw iddynt, oherwydd fe ddigwyddodd y peth mor ddisymwth.

le>