1Anfonodd Heseceia negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ac ysgrifennu llythyrau at Effraim a Manasse i'w gwahodd i ddod i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn nhu375?'r ARGLWYDD yn Jerwsalem.
2Yr oedd y brenin a'i swyddogion a'r holl gynulleidfa yn Jerwsalem wedi cytuno i gadw'r Pasg yn yr ail fis,
3oherwydd ni allent ei gadw ar yr amser priodol am nad oedd digon o offeiriaid wedi ymgysegru, ac am nad oedd y bobl wedi ymgasglu yn Jerwsalem.
4Yr oedd y brenin a'r holl gynulleidfa yn gweld y cynllun yn un da.
5Felly gorchmynasant gyhoeddi trwy Israel gyfan, o Beerseba i Dan, fod pawb i ddod i Jerwsalem i gadw Pasg yr ARGLWYDD, Duw Israel; oherwydd nid oeddent wedi ei gadw yn �l y drefn ysgrifenedig ers amser maith.
6Aeth negeswyr trwy holl Israel a Jwda, ar orchymyn y brenin, gyda llythyrau oddi wrtho ef a'i swyddogion, yn dweud, "Bobl Israel, dychwelwch at yr ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, ac fe ddychwel yntau at y gweddill ohonoch chwi a ddihangodd o law brenhinoedd Asyria.
7Peidiwch � bod fel eich hynafiaid a'ch tylwyth, a droseddodd yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid; oherwydd cawsant hwy eu hanrheithio, fel y gwelwch.
8Yn awr, peidiwch � bod yn ystyfnig fel eich hynafiaid, ond ymostyngwch i'r ARGLWYDD, a dewch i'w gysegr a gysegrodd ef yn dragywydd; gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich Duw er mwyn iddo droi ei lid tanbaid oddi wrthych.
9Oherwydd os dychwelwch at yr ARGLWYDD, caiff eich pobl a'ch plant drugaredd gan eu caethgludwyr, a dychwelyd i'r wlad hon; oblegid y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rasol a thrugarog, ac ni thry ei wyneb oddi wrthych os dychwelwch ato."
10Aeth y negeswyr o ddinas i ddinas trwy wlad Effraim a Manasse hyd at Sabulon, ond cawsant eu gwatwar a'u gwawdio.
11Er hynny, cytunodd rhai o Aser, Manasse a Sabulon i ddod i Jerwsalem.
12Bu llaw Duw ar Jwda hefyd yn annog y bobl i ufuddhau'n unfryd i orchymyn y brenin a'r swyddogion, yn unol � gair yr ARGLWYDD.
13Daeth llawer iawn o bobl ynghyd i Jerwsalem yn yr ail fis i gadw gu373?yl y Bara Croyw; yr oedd yn gynulliad enfawr.
14Dechreusant symud ymaith yr allorau oedd yn Jerwsalem, ac aethant �'r holl allorau arogldarth a'u taflu i nant Cidron.
15Yna, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis, lladdasant oen y Pasg. Cywilyddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid am hyn; ac wedi iddynt ymgysegru, daethant � phoethoffrymau i du375?'r ARGLWYDD.
16Safasant yn eu lle arferol yn �l cyfraith Moses gu373?r Duw, a lluchiodd yr offeiriaid y gwaed a gawsant gan y Lefiaid.
17Am fod llawer yn y gynulleidfa heb ymgysegru, yr oedd y Lefiaid yn lladd oen y Pasg dros bawb halogedig, er mwyn eu cysegru i'r ARGLWYDD.
18Oherwydd yr oedd nifer mawr o bobl, llawer ohonynt o Effraim, Manasse, Issachar a Sabulon, heb ymgysegru, ac felly'n bwyta'r Pasg yn groes i'r rheol. Ond gwedd�odd Heseceia drostynt a dweud,
19Bydded i'r ARGLWYDD da faddau i bob un a roes ei fryd ar geisio Duw, sef ARGLWYDD Dduw ei dadau, er nad yw wedi gwneud hynny yn �l defod puredigaeth y cysegr."
20Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Heseceia, ac fe iachaodd y bobl.
21Cadwodd yr Israeliaid oedd yn Jerwsalem u373?yl y Bara Croyw am saith diwrnod � llawenydd mawr, ac yr oedd y Lefiaid a'r offeiriaid yn moliannu'r ARGLWYDD yn feunyddiol ag offer soniarus yn perthyn i'r ARGLWYDD.
22Calonogodd Heseceia bob un o'r Lefiaid oedd yn gyfrifol am ddysgu ffyrdd daionus yr ARGLWYDD. Yna, am saith diwrnod yr u373?yl bu pawb yn gwledda, yn aberthu heddoffrymau ac yn diolch i ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
23Cytunodd yr holl gynulleidfa i gadw'r u373?yl am saith diwrnod arall, ac fe wnaethant hynny'n llawen.
24Darparodd Heseceia brenin Jwda fil o fustych a saith mil o ddefaid i'r gynulleidfa, a rhoddodd y swyddogion fil o fustych a deng mil o ddefaid iddynt. Yna ymgysegrodd llawer iawn o'r offeiriaid.
25Llawenhaodd holl gynulleidfa Jwda, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a'r holl gynulleidfa a ddaeth o Israel, gan gynnwys y dieithriaid oedd wedi dod o wlad Israel, a thrigolion Jwda.
26Felly bu llawenydd mawr yn Jerwsalem, na fu ei debyg yno er dyddiau Solomon fab Dafydd, brenin Israel.
27Yna safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid i fendithio'r bobl; gwrandawodd Duw ar eu llef, ac esgynnodd eu gweddi i'w breswylfa sanctaidd yn y nefoedd.