2 Cronicl 4:1-22 BCN1988 - Bible AI

1Gwnaeth allor bres, ugain cufydd o hyd, ugain cufydd o led a deg cufydd o uchder.

2Yna fe wnaeth y m�r o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch.

3O amgylch y m�r, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd, yr oedd rhywbeth tebyg i ychen; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.

4Safai'r m�r ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.

5Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili. Yr oedd yn gallu dal tair mil o bathau.

6Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y m�r yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi.

7Gwnaeth ddeg canhwyllbren aur yn �l y cynllun, a'u rhoi yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith.

8Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur.

9Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau � phres.

10Gosododd y m�r ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tu375?.

11Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375? Dduw:

12y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;

13y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;

14y deg troli; y deg noe ar y trol�au;

15y m�r a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.

16Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD o bres gloyw.

17Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.

18Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.

19Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i du375? Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;

20y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn �l y ddefod;

21y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;

22y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tu375? a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y c�r.

e>