2 Cronicl 8:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Ar derfyn yr ugain mlynedd a gymerodd Solomon i adeiladu tu375?'r ARGLWYDD a'i du375? ei hun,

2fe ail-adeiladodd y dinasoedd a roddodd Hiram iddo, a rhoi Israeliaid i fyw ynddynt.

3Aeth Solomon i Hamath-soba a'i gorchfygu,

4ac fe ailadeiladodd Tadmor yn y diffeithwch, a'r holl ddinasoedd st�r yr oedd wedi eu hadeiladu yn Hamath.

5Fe adeiladodd Beth-horon Uchaf a Beth-horon Isaf yn ddinasoedd caerog � muriau, dorau a barrau,

6hefyd Baalath a'r holl ddinasoedd st�r oedd gan Solomon, a'r holl ddinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall y dymunai ei adeiladu, prun ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.

7Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.

8Yr oedd disgynyddion y rhain wedi eu gadael ar �l yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa; arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.

9Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas ar gyfer ei waith; hwy oedd ei filwyr, ei gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,

10a hwy hefyd oedd prif arolygwyr y Brenin Solomon � dau gant a hanner ohonynt, yn rheoli'r bobl.

11Daeth Solomon � merch Pharo i fyny o Ddinas Dafydd i'r tu375? a gododd iddi, oherwydd dywedodd, "Ni chaiff fy ngwraig i fyw yn nhu375? Dafydd brenin Israel, am fod pob man yr aeth arch yr ARGLWYDD iddo yn gysegredig."

12Yna fe offrymodd Solomon boethoffrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, a gododd o flaen y porth.

13Offrymai yn unol �'r gofynion dyddiol a orchmynnodd Moses ynglu375?n �'r Sabothau, y newydd-loerau a'r tair gu373?yl flynyddol arbennig, sef gu373?yl y Bara Croyw, gu373?yl yr Wythnosau a gu373?yl y Pebyll.

14Ac yn unol � threfn ei dad Dafydd, fe osododd yr offeiriaid mewn dosbarthiadau ar gyfer gwasanaethu, a'r Lefiaid ar ddyletswydd i ganu mawl ac i wasanaethu'r offeiriaid yn feunyddiol yn �l y gofyn, a'r porthorion mewn dosbarthiadau wrth bob porth, oherwydd dyma orchymyn Dafydd, gu373?r Duw.

15Nid anghofiwyd gorchymyn y brenin i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglu375?n �'r trysordai, na dim arall.

16Felly cyflawnwyd holl waith Solomon, o'r dydd y gosodwyd sylfaen tu375?'r ARGLWYDD nes ei gwblhau; a gorffennwyd tu375?'r ARGLWYDD.

17Yna aeth Solomon i Esion-geber ac i Elath, sydd ar lan y m�r yng ngwlad Edom.

18Anfonodd Hiram longau iddo gyda'i weision oedd yn forwyr profiadol, ac aethant gyda gweision Solomon i Offir, a dod � phedwar cant a hanner o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

e>