2 Samuel 2:1-32 BCN1988 - Bible AI

1Wedi hyn ymofynnodd Dafydd �'r ARGLWYDD a gofyn, "A af i fyny i un o drefi Jwda?" Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Dos." Gofynnodd Dafydd, "I ba un?" Atebodd yr ARGLWYDD, "I Hebron."

2Felly fe aeth Dafydd i fyny yno, a'i ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal, o Garmel;

3hefyd fe aeth Dafydd �'r gwu375?r oedd ganddo, bob un �'i deulu, a thrigo yn nhref Hebron.

4Yna daeth gwu375?r Jwda, ac eneinio Dafydd yno yn frenin ar du375? Jwda. Dywedwyd wrth Ddafydd mai gwu375?r Jabes-gilead oedd wedi claddu Saul,

5ac anfonodd Dafydd negeswyr atynt a dweud wrthynt, "Bendith yr ARGLWYDD arnoch am ichwi wneud y gymwynas hon �'ch arglwydd Saul, a'i gladdu.

6Ac yn awr bydded i'r ARGLWYDD ddangos caredigrwydd a ffyddlondeb atoch chwithau; a gwnaf finnau ddaioni i chwi, am ichwi wneud y peth hwn.

7Byddwch gryf a dewr yn awr; y mae eich arglwydd Saul wedi marw, ond y mae tu375? Jwda wedi f'eneinio i yn frenin arnynt."

8Yr oedd Abner fab Ner, cadfridog Saul, wedi cymryd Isboseth fab Saul ac wedi mynd ag ef drosodd i Mahanaim.

9Gwnaeth ef yn frenin dros Gilead, pobl Aser, Jesreel, Effraim a Benjamin, a thros Israel gyfan.

10Deugain oed oedd Isboseth fab Saul pan ddaeth yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am ddwy flynedd; ond yr oedd tu375? Jwda yn dilyn Dafydd.

11Saith mlynedd a chwe mis oedd hyd y cyfnod y bu Dafydd yn frenin ar du375? Jwda yn Hebron.

12Aeth Abner fab Ner gyda dilynwyr Isboseth allan o Mahanaim tua Gibeon.

13Aeth Joab fab Serfia a dilynwyr Dafydd allan hefyd; a chyfarfu'r ddau wrth bwll Gibeon, gyda'r naill fintai ar un ochr i'r pwll, a'r llall yr ochr arall.

14Ac meddai Abner wrth Joab, "Gad i'r llanciau ddod a chynnal gornest o'n blaenau." Cytunodd Joab.

15Yna daethant ymlaen, a chyfrifwyd deuddeg o lwyth Benjamin ar ochr Isboseth fab Saul, a deuddeg o blith dilynwyr Dafydd.

16Cydiodd pob un ym mhen ei wrthwynebydd a thrywanu ei gleddyf i'w ystlys, a syrthiodd y cwbl gyda'i gilydd; am hynny galwyd y lle hwnnw sydd yn Gibeon yn Helcath-hasurim.

17Bu brwydr galed iawn y diwrnod hwnnw, a threchwyd Abner fab Ner a'r Israeliaid gan ddilynwyr Dafydd.

18Yr oedd tri mab Serfia yno, Joab, Abisai ac Asahel; ac yr oedd Asahel cyn gyflymed ei draed ag unrhyw ewig ar y dd�l.

19Rhedodd Asahel ar �l Abner heb wyro i'r dde na'r chwith oddi ar ei �l.

20Edrychodd Abner o'i �l a dywedodd, "Ai ti sydd yna, Asahel?" Atebodd yntau, "Ie."

21Dywedodd Abner wrtho, "Tro draw i'r dde neu i'r chwith, a dal un o'r llanciau, a chymer ei arfau ef." Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei �l.

22Dywedodd Abner eto wrth Asahel, "Tro draw oddi wrthyf; pam y mae'n rhaid imi dy daro i'r llawr? Sut y gallwn wynebu dy frawd Joab?"

23Ond gwrthododd droi draw, a thrawodd Abner ef yn ei fol � b�n ei waywffon, nes iddi ddod allan trwy ei gefn. Syrthiodd i lawr, ac yno y bu farw. Ac wrth ddod heibio'r fan y bu i Asahel syrthio a marw, safai pawb yn ei unfan.

24Ond daliodd Joab ac Abisai i ymlid ar �l Abner, ac fel yr oedd yr haul yn machlud, daethant at fryn Amma sydd gyferbyn � Gia, i gyfeiriad anialwch Gibeon.

25Ymgasglodd y Benjaminiaid at Abner, ac ymffurfio'n un fintai a sefyll ar gopa bryn Amma.

26Yna gwaeddodd Abner ar Joab a dweud, "A yw'r cleddyf i ddifa am byth? Oni wyddost mai chwerw fydd diwedd hyn? Am ba hyd y gwrthodi ddweud wrth y milwyr am beidio ag erlid eu perthnasau?"

27Atebodd Joab, "Cyn wired � bod Duw yn fyw, oni bai dy fod wedi siarad, ni fyddai'r milwyr wedi peidio ag ymlid eu perthnasau tan y bore."

28Yna seiniodd Joab yr utgorn, a pheidiodd yr holl bobl ag ymlid yr Israeliaid, na brwydro rhagor.

29Aeth Abner a'i ddynion ar draws yr Araba drwy'r nos, a chroesi'r Iorddonen, a dal ymlaen drwy gydol y bore nes dod i Mahanaim.

30A phan ddaeth Joab yn ei �l o ddilyn Abner, fe gasglodd y bobl ynghyd, ac yr oedd pedwar ar bymtheg o ddilynwyr Dafydd yn eisiau, yn ogystal ag Asahel.

31Yr oedd dilynwyr Dafydd wedi lladd o blith Benjamin dri chant a thrigain o filwyr Abner. Cymerwyd Asahel a'i gladdu ym medd ei dad ym Methlehem.

32Yna cerddodd Joab a'i ddynion drwy'r nos, a chyrraedd Hebron fel yr oedd yn dyddio.

>