2 Samuel 22:1-51 BCN1988 - Bible AI

1Llefarodd Dafydd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion ac o law Saul,

2a dywedodd: "Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;

3fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer, fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais.

4Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.

5Pan oedd tonnau angau yn f'amgylchynu a llifeiriant distryw yn fy nal,

6pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen,

7gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.

8Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r nefoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef.

9Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd t�n yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas.

10Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.

11Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt.

12Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell, a chymylau duon yn orchudd.

13o'r disgleirdeb o'i flaen tasgodd cerrig t�n.

14Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf.

15Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.

16Daeth gwaelodion y m�r i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau.

17Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.

18Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghas�u pan oeddent yn gryfach na mi.

19Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.

20Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.

21Gwnaeth yr ARGLWYDD � mi yn �l fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn �l glendid fy nwylo.

22Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

23yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

24Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu.

25Talodd yr ARGLWYDD imi yn �l fy nghyfiawnder, ac yn �l glendid fy nwylo yn ei olwg.

26Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,

27ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.

28Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion.

29Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

30Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

31Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

32Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni?

33Duw yw fy nghaer gadarn, sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.

34Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

35Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres.

36Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

37Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed.

38Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio; ni ddychwelaf nes eu difetha.

39Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio dan fy nhraed.

40Yr wyt wedi fy ngwregysu � nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion danaf.

41Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghas�u.

42Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.

43Fe'u maluriaf cyn faned � llwch y ddaear, a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.

44Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.

45Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen, pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi.

46Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.

47Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig, dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,

48y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd danaf,

49sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.

50Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw.

51Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth."

e>