1Dyma eiriau olaf Dafydd: "Oracl Dafydd fab Jesse, ie, oracl y gu373?r a godwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, canwr caneuon Israel.
2Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof, a'i air ef oedd ar fy nhafod.
3Llefarodd Duw Jacob, dywedodd craig Israel wrthyf: 'Y mae'r sawl sy'n llywodraethu pobl yn gyfiawn, yn llywodraethu yn ofn Duw,
4fel goleuni bore pan gyfyd haul ar fore digwmwl, a pheri i'r gwellt ddisgleirio o'r ddaear ar �l glaw.'
5Yn sicr, onid felly y mae fy nheulu gyda Duw? Oherwydd gwnaeth gyfamod tragwyddol � mi, un trefnus ym mhob cymal, a diogel. Ef yw fy nghymorth i gyd a'm dymuniad; oni rydd lwyddiant i mi?
6Y mae'r dihirod i gyd fel drain a dorrir i lawr, am na ellir eu casglu � llaw.
7Nid oes neb yn eu cyffwrdd ond � haearn neu goes gwaywffon, a'u llosgi'n llwyr yn y man lle maent."
8Dyma enwau'r gwroniaid oedd gan Ddafydd: Isbaal yr Hachmoniad oedd pen y Tri; chwifiodd ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben wyth gant o laddedigion ar un tro.
9Y nesaf ato ef ymysg y Tri Gwron oedd Eleasar fab Dodo, fab Ahohi; yr oedd ef gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan ddaethant ynghyd i ryfel, a'r Israeliaid yn cilio o'u blaenau.
10Safodd ei dir ac ymladd �'r Philistiaid nes i'w law ddiffygio a glynu yn ei gleddyf. Rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, a daeth y bobl yn �l at Eleasar, ond i ysbeilio'r cyrff yn unig.
11Y nesaf at hwnnw oedd Samma fab Age yr Harariad. Pan ddaeth y Philistiaid ynghyd yn Lehi, lle'r oedd rhandir yn llawn ffacbys, ffodd y bobl rhag y Philistiaid;
12ond safodd Samma ei dir yng nghanol y llain a'i hachub, a lladd y Philistiaid; a rhoes yr ARGLWYDD waredigaeth fawr.
13Aeth tri o'r Deg ar Hugain i lawr at Ddafydd i ogof Adulam, a chyrraedd adeg y cynhaeaf, pan oedd mintai o Philistiaid wedi gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
14Yr oedd Dafydd ar y pryd yn yr amddiffynfa, a garsiwn y Philistiaid ym Methlehem.
15Cododd blys ar Ddafydd ac meddai, "O na chawn ddiod o ddu373?r o bydew Bethlehem sydd ger y porth!"
16Ar hynny rhuthrodd y Tri Gwron trwy wersyll y Philistiaid, codi du373?r o bydew Bethlehem gerllaw'r porth, a'i gludo'n �l at Ddafydd. Eto ni fynnai ef ei yfed, a thywalltodd ef yn offrwm i'r ARGLWYDD,
17a dweud, "Na ato'r ARGLWYDD i mi wneud hyn! A allaf fi yfed gwaed gwu375?r a fentrodd eu heinioes?" A gwrthododd ei yfed. Dyma wrhydri y Tri Gwron.
18Abisai brawd Joab fab Serfia oedd pennaeth y Deg ar Hugain. Chwifiodd ef ei waywffon mewn buddugoliaeth uwchben trichant o laddedigion; enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg ar Hugain.
19Ef yn wir oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, a bu'n gapten arnynt; ond nid oedd ymysg y Tri.
20Yr oedd Benaia fab Jehoiada o Cabseel yn u373?r dewr, aml ei orchestion. Ef a laddodd ddau bencampwr Moab; ef hefyd a aeth i lawr i bydew a lladd llew yno ar ddiwrnod o eira.
21Lladdodd gawr o Eifftiwr, er bod gwaywffon yn llaw'r Eifftiwr, ac yntau'n ymosod heb ddim ond ffon. Cipiodd y waywffon o law'r Eifftiwr, a'i ladd �'i waywffon ei hun.
22Dyma wrhydri Benaia fab Jehoiada, ac enillodd enw iddo'i hun ymhlith y Deg Gwron ar Hugain.
23Ef oedd yr enwocaf o'r Deg ar Hugain, ond nid oedd ymysg y Tri. Apwyntiodd Dafydd ef yn bennaeth ei warchodlu.
24Yr oedd Asahel brawd Joab ymysg y Deg ar Hugain, hefyd Elhanan fab Dodo o Fethlehem,
25Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,
26Heles y Paltiad, Ira fab Icces y Tecoiad,
27Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,
28Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,
29Heleb fab Baana y Netoffathiad, Itai fab Ribai o Gibea meibion Benjamin,
30Benaia y Pirathoniad, Hidai o Nahale-gaas,
31Abialbon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,
32Eliahba y Saalboniad, Jasen y Nuniad, Jonathan fab
33Samma yr Harariad, Ahiam fab Sarar yr Harariad,
34Eliffelet fab Ahasbai, mab y Naachathiad, Eliam fab Ahitoffel y Giloniad,
35Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,
36Igal fab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,
37Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad (cludydd arfau Joab fab Serfia),
38Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
39Ureia yr Hethiad. Tri deg a saith i gyd.