Actau’r Apostolion 10:1-48 BCN1988 - Bible AI

1Yr oedd rhyw u373?r yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;

2gu373?r defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gwedd�o ar Dduw yn gyson.

3Tua thri o'r gloch y prynhawn, gwelodd yn eglur mewn gweledigaeth angel Duw yn dod i mewn ato ac yn dweud wrtho, "Cornelius."

4Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, "Beth sydd, f'arglwydd?" Dywedodd yr angel wrtho, "Y mae dy wedd�au a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.

5Ac yn awr anfon ddynion i Jopa i gyrchu dyn o'r enw Simon, a gyfenwir Pedr.

6Y mae hwn yn lletya gyda rhyw farcer o'r enw Simon, sydd �'i du375? wrth y m�r."

7Wedi i'r angel oedd yn llefaru wrtho ymadael, galwodd ddau o'r gweision tu375? a milwr defosiynol, un o'i weision agos,

8ac adroddodd y cwbl wrthynt a'u hanfon i Jopa.

9Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agos�u at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i wedd�o, tua chanol dydd.

10Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair.

11Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.

12O'i mewn yr oedd holl anifeiliaid ac ymlusgiaid y ddaear ac adar yr awyr.

13A daeth llais ato, "Cod, Pedr, lladd a bwyta."

14Dywedodd Pedr, "Na, na, Arglwydd; nid wyf fi erioed wedi bwyta dim halogedig nac aflan."

15A thrachefn eilwaith meddai'r llais wrtho, "Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti �'i alw'n halogedig."

16Digwyddodd hyn deirgwaith; yna yn sydyn cymerwyd y peth i fyny i'r nef.

17Tra oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth allai ystyr y weledigaeth fod, dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi iddynt holi am du375? Simon, yn dod a sefyll wrth y drws.

18Galwasant a gofyn, "A yw Simon, a gyfenwir Pedr, yn lletya yma?"

19Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, "Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat.

20Cod, dos i lawr, a dos gyda hwy heb amau dim, oherwydd myfi sydd wedi eu hanfon."

21Aeth Pedr i lawr at y dynion, ac meddai, "Dyma fi, y dyn yr ydych yn chwilio amdano. Pam y daethoch yma?"

22Meddent hwythau, "Y canwriad Cornelius, gu373?r cyfiawn sy'n ofni Duw ac sydd � gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i anfon amdanat i'w du375?, ac i glywed y pethau sydd gennyt i'w dweud."

23Felly gwahoddodd hwy i mewn a rhoi llety iddynt. Trannoeth, cododd ac aeth ymaith gyda hwy, ac aeth rhai o'r credinwyr oedd yn Jopa gydag ef.

24A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.

25Wedi i Pedr ddod i mewn, aeth Cornelius i'w gyfarfod, a syrthiodd wrth ei draed a'i addoli.

26Ond cododd Pedr ef ar ei draed, gan ddweud, "Cod; dyn wyf finnau hefyd."

27A than ymddiddan ag ef aeth i mewn, a chael llawer wedi ymgynnull,

28ac meddai wrthynt, "Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.

29Dyna pam y deuthum, heb wrthwynebu o gwbl, pan anfonwyd amdanaf. 'Rwy'n gofyn, felly, pam yr anfonasoch amdanaf."

30Ac ebe Cornelius, "Pedwar diwrnod i'r awr hon, yr oeddwn ar weddi am dri o'r gloch y prynhawn yn fy nhu375?, a dyma u373?r yn sefyll o'm blaen mewn gwisg ddisglair,

31ac meddai, 'Cornelius, y mae Duw wedi clywed dy weddi di ac wedi cofio am dy elusennau.

32Anfon, felly, i Jopa a gwahodd atat Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwn yn lletya yn nhu375? Simon y barcer, wrth y m�r.'

33Anfonais atat, felly, ar unwaith, a gwelaist tithau yn dda ddod. Yn awr, ynteu, yr ydym ni bawb yma gerbron Duw i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd."

34A dechreuodd Pedr lefaru: "Ar fy ngwir," meddai, "'rwy'n deall nad yw Duw yn dangos ffafriaeth,

35ond bod y sawl ym mhob cenedl sy'n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef.

36Y gair hwn a anfonodd i blant Israel, gan gyhoeddi Efengyl tangnefedd drwy Iesu Grist; ef yw Arglwydd pawb.

37Gwyddoch chwi'r peth a fu drwy holl Jwdea, gan ddechrau yng Ngalilea wedi'r bedydd a gyhoeddodd Ioan � Iesu o Nasareth,

38y modd yr eneiniodd Duw ef �'r Ysbryd Gl�n ac � nerth. Aeth ef oddi amgylch gan wneud daioni ac iach�u pawb oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.

39Ac yr ydym ni'n dystion o'r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon ac yn Jerwsalem. A lladdasant ef, gan ei grogi ar bren.

40Ond cyfododd Duw ef ar y trydydd dydd, a pheri iddo ddod yn weledig,

41nid i'r holl bobl, ond i dystion oedd wedi eu rhagethol gan Dduw, sef i ni, y rhai a fu'n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.

42Gorchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai hwn yw'r un a benodwyd gan Dduw yn farnwr y byw a'r meirw.

43I hwn y mae'r holl broffwydi'n tystio, y bydd pawb sy'n credu ynddo ef yn derbyn maddeuant pechodau trwy ei enw."

44Tra oedd Pedr yn dal i lefaru'r pethau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Gl�n ar bawb oedd yn gwrando'r gair.

45Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Gl�n wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd;

46oherwydd yr oeddent yn eu clywed yn llefaru � thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna dywedodd Pedr,

47A all unrhyw un wrthod y du373?r i fedyddio'r rhain, a hwythau wedi derbyn yr Ysbryd Gl�n fel ninnau?"

48A gorchmynnodd eu bedyddio hwy yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros am rai dyddiau.

r>