Actau’r Apostolion 11:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn Gair Duw.

2Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef,

3a dweud, "Buost yn ymweld � dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta � hwy."

4Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn.

5Yr oeddwn i," meddai, "yn nhref Jopa yn gwedd�o, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf.

6Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar y awyr.

7A chlywais lais yn dweud wrthyf, 'Cod, Pedr, lladd a bwyta.'

8Ond dywedais, 'Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.'

9Atebodd llais o'r nef eilwaith, 'Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti �'i alw'n halogedig.'

10Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn �l i'r nef.

11Ac yn union dyma dri dyn yn dod a sefyll wrth y tu375? lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea.

12A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i du375?'r dyn hwnnw.

13Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei du375? ac yn dweud, 'Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;

14fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.'

15Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Gl�n arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.

16Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, '� du373?r y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi �'r Ysbryd Gl�n.'

17Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i i allu rhwystro Duw?"

18Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, "Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd."

19Yn awr yr oedd y rhai a wasgarwyd oherwydd yr erlid a gododd o achos Steffan wedi teithio cyn belled � Phoenicia a Cyprus ac Antiochia, heb lefaru'r Gair wrth neb ond Iddewon yn unig.

20Ond yr oedd rhai ohonynt yn bobl o Cyprus a Cyrene a dechreusant hwy, wedi iddynt ddod i Antiochia, lefaru wrth y Groegiaid hefyd, gan gyhoeddi'r newydd da am yr Arglwydd Iesu.

21Yr oedd llaw'r Arglwydd gyda hwy, a mawr oedd y nifer a ddaeth i gredu a throi at yr Arglwydd.

22Daeth yr hanes amdanynt i glustiau'r eglwys oedd yn Jerwsalem ac anfonasant Barnabas allan i fynd i Antiochia.

23Wedi iddo gyrraedd, a gweld gras Duw, yr oedd yn llawen, a bu'n annog pawb i lynu wrth yr Arglwydd o wir fwriad calon;

24achos yr oedd yn ddyn da, yn llawn o'r Ysbryd Gl�n ac o ffydd. A chwanegwyd tyrfa niferus i'r Arglwydd.

25Yna fe aeth ymaith i Darsus i geisio Saul, ac wedi ei gael daeth ag ef i Antiochia.

26Am flwyddyn gyfan cawsant gydymgynnull gyda'r eglwys a dysgu tyrfa niferus; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristionogion gyntaf.

27Yn y dyddiau hynny daeth proffwydi i lawr o Jerwsalem i Antiochia,

28a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.

29Penderfynodd y disgyblion, bob un ohonynt, gyfrannu, yn �l fel y gallai fforddio, at gynhaliaeth eu cyd-gredinwyr oedd yn trigo yn Jwdea.

30Gwnaethant hynny, ac anfon eu cyfraniad at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.

r>