Actau’r Apostolion 15:1-41 BCN1988 - Bible AI

1Yna daeth rhai i lawr o Jwdea a dysgu'r credinwyr: "Os nad enwaedir arnoch yn �l defod Moses, ni ellir eich achub."

2A chododd ymryson ac ymddadlau nid bychan rhyngddynt a Paul a Barnabas, a threfnwyd bod Paul a Barnabas, a rhai eraill o'u plith, yn mynd i fyny at yr apostolion a'r henuriaid yn Jerwsalem ynglu375?n �'r cwestiwn yma.

3Felly anfonwyd hwy gan yr eglwys, ac ar eu taith trwy Phoenicia a Samaria buont yn adrodd yr hanes am dr�edigaeth y Cenhedloedd, a pharasant lawenydd mawr i'r holl gredinwyr.

4Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.

5Ond cododd rhai credinwyr oedd o sect y Phariseaid, a dweud, "Y mae'n rhaid enwaedu arnynt, a gorchymyn iddynt gadw Cyfraith Moses."

6Ymgynullodd yr apostolion a'r henuriaid i ystyried y mater yma.

7Ar �l llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: "Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu.

8Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Gl�n yr un fath ag i ninnau;

9ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.

10Yn awr, ynteu, pam yr ydych yn rhoi prawf ar Dduw trwy osod iau ar war y disgyblion, na allodd ein hynafiaid na ninnau mo'i dwyn?

11Ond yr ydym ni'n credu mai trwy ras yr Arglwydd Iesu yr achubir ni, a hwythau yr un modd."

12Tawodd yr holl gynulliad, a gwrando ar Barnabas a Paul yn adrodd am yr holl arwyddion a rhyfeddodau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd drwyddynt hwy.

13Wedi iddynt dewi, dywedodd Iago, "Gyfeillion, gwrandewch arnaf fi.

14Y mae Simeon wedi dweud sut y gofalodd Duw gyntaf am gael o blith y Cenhedloedd bobl yn dwyn ei enw.

15Ac y mae geiriau'r proffwydi yn cytuno � hyn, fel y mae'n ysgrifenedig:

16'"Ar �l hyn dychwelaf, ac ailadeiladaf babell syrthiedig Dafydd, ailadeiladaf ei hadfeilion, a'i hatgyweirio,

17fel y ceisier yr Arglwydd gan y bobl sy'n weddill, a chan yr holl Genhedloedd y galwyd fy enw arnynt," medd yr Arglwydd, sy'n gwneud y pethau hyn

18yn hysbys erioed.'

19Felly fy marn i yw na ddylem boeni'r rhai o blith y Cenhedloedd sy'n troi at Dduw,

20ond ysgrifennu atynt am iddynt ymgadw rhag bwyta pethau sydd wedi eu halogi gan eilunod, a rhag anfoesoldeb rhywiol, a rhag bwyta na'r hyn sydd wedi ei dagu, na gwaed.

21Oherwydd y mae gan Moses, er yr oesau cyntaf, rai sy'n ei bregethu ym mhob tref, ac fe'i darllenir yn y synagogau bob Saboth."

22Yna penderfynodd yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd �'r holl eglwys, ddewis gwu375?r o'u plith a'u hanfon i Antiochia gyda Paul a Barnabas, sef Jwdas, a elwid Barsabas, a Silas, gwu375?r blaenllaw ymhlith y credinwyr.

23Rhoesant y llythyr hwn iddynt i fynd yno: "Y brodyr, yn apostolion a henuriaid, at y credinwyr o blith y Cenhedloedd yn Antiochia a Syria a Cilicia, cyfarchion.

24Oherwydd inni glywed fod rhai ohonom ni wedi'ch tarfu �'u geiriau, ac ansefydlogi eich meddyliau, heb i ni eu gorchymyn,

25yr ydym wedi penderfynu'n unfryd ddewis gwu375?r a'u hanfon atoch gyda'n cyfeillion annwyl, Barnabas a Paul,

26dynion sydd wedi cyflwyno eu bywydau dros enw ein Harglwydd Iesu Grist.

27Felly yr ydym yn anfon Jwdas a Silas, a byddant hwy'n mynegi yr un neges ar lafar.

28Penderfynwyd gan yr Ysbryd Gl�n a chennym ninnau beidio � gosod arnoch ddim mwy o faich na'r pethau angenrheidiol hyn:

29ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu'r hyn sydd wedi ei dagu, a rhag anfoesoldeb rhywiol. Os cadwch rhag y pethau hyn, fe wnewch yn dda. Ffarwel."

30Anfonwyd hwy, felly, a daethant i lawr i Antiochia, ac wedi galw'r gynulleidfa ynghyd, cyflwynwyd y llythyr.

31Wedi ei ddarllen, yr oeddent yn llawen ar gyfrif yr anogaeth yr oedd yn ei rhoi.

32Gan fod Jwdas a Silas hwythau'n broffwydi, dywedasant lawer i annog y credinwyr a'u cadarnhau.

33Wedi iddynt dreulio peth amser fe'u gollyngwyd mewn tangnefedd gan y credinwyr, i ddychwelyd at y rhai a'u hanfonodd.

34[{cf15i Ond penderfynodd Silas aros yno.}]

35Arhosodd Paul a Barnabas yn Antiochia, gan ddysgu a phregethu gair yr Arglwydd, ynghyd � llawer eraill.

36Wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, "Gadewch inni ddychwelyd yn awr, ac ymweld �'r credinwyr ym mhob un o'r dinasoedd y buom yn cyhoeddi gair yr Arglwydd ynddynt, i weld sut y mae hi arnynt."

37Yr oedd Barnabas yn dymuno cymryd Ioan, a elwid Marc, gyda hwy;

38ond yr oedd Paul yn barnu na ddylent gymryd yn gydymaith un oedd wedi cefnu arnynt yn Pamffylia, a heb fynd ymlaen a chydweithio � hwy.

39Bu cymaint cynnen rhyngddynt nes iddynt ymwahanu. Cymerodd Barnabas Marc, a hwylio i Cyprus;

40ond dewisodd Paul Silas, ac aeth i ffwrdd, wedi ei gyflwyno gan y credinwyr i ras yr Arglwydd.

41A bu'n teithio drwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.

r>