Actau’r Apostolion 18:1-28 BCN1988 - Bible AI

1Wedi hynny fe ymadawodd ag Athen, a dod i Gorinth.

2A daeth o hyd i Iddew o'r enw Acwila, brodor o Pontus, gu373?r oedd newydd ddod o'r Eidal gyda'i wraig, Priscila, o achos gorchymyn Clawdius i'r holl Iddewon ymadael � Rhufain. Aeth atynt,

3ac am ei fod o'r un grefft, arhosodd gyda hwy, a gweithio; gwneuthurwyr pebyll oeddent wrth eu crefft.

4Byddai'n ymresymu yn y synagog bob Saboth, a cheisio argyhoeddi Iddewon a Groegiaid.

5Pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul ymroi yn llwyr i bregethu'r Gair, gan dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.

6Ond yr oeddent hwy'n dal i'w wrthwynebu a'i ddifenwi, ac felly fe ysgydwodd ei ddillad a dweud wrthynt, "Ar eich pen chwi y bo'ch gwaed! Nid oes bai arnaf fi; o hyn allan mi af at y Cenhedloedd."

7Symudodd oddi yno ac aeth i du375? dyn o'r enw Titius Jwstus, un oedd yn addoli Duw; yr oedd ei du375? y drws nesaf i'r synagog.

8Credodd Crispus, arweinydd y synagog, yn yr Arglwydd, ynghyd �'i holl deulu. Ac wrth glywed, credodd llawer o'r Corinthiaid a chael eu bedyddio.

9Dywedodd yr Arglwydd wrth Paul un noson, trwy weledigaeth, "Paid ag ofni, ond dal ati i lefaru, a phaid � thewi;

10oherwydd yr wyf fi gyda thi, ac ni fydd i neb ymosod arnat ti i wneud niwed iti, oblegid y mae gennyf lawer o bobl yn y ddinas hon."

11Ac fe arhosodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu gair Duw yn eu plith.

12Pan oedd Galio yn rhaglaw Achaia, cododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a dod ag ef gerbron y llys barn,

13gan ddweud, "Y mae hwn yn annog pobl i addoli Duw yn groes i'r Gyfraith."

14Pan oedd Paul ar agor ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, "Pe bai yn fater o drosedd neu gamwedd ysgeler, byddwn wrth reswm yn rhoi gwrandawiad i chwi, Iddewon;

15ond gan mai dadleuon yw'r rhain ynghylch geiriau ac enwau a'ch Cyfraith arbennig chwi, cymerwch y cyfrifoldeb eich hunain. Nid oes arnaf fi eisiau bod yn farnwr ar y pethau hyn."

16A gyrrodd hwy allan o'r llys.

17Yna gafaelodd pawb yn Sosthenes, arweinydd y synagog, a'i guro yng ngu373?ydd y llys. Ond nid oedd Galio yn poeni dim am hynny.

18Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi ffarwelio �'r credinwyr fe hwyliodd ymaith i Syria, a Priscila ac Acwila gydag ef. Eilliodd ei ben yn Cenchreae, am fod adduned arno.

19Pan gyraeddasant Effesus, gadawodd hwy yno, a mynd ei hun i mewn i'r synagog ac ymresymu �'r Iddewon.

20A phan ofynasant iddo aros am amser hwy, ni chydsyniodd.

21Ond wedi ffarwelio gan ddweud, "Dychwelaf atoch eto, os Duw a'i myn", hwyliodd o Effesus.

22Wedi glanio yng Nghesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys. Yna aeth i lawr i Antiochia,

23ac wedi treulio peth amser yno, aeth ymaith, a theithio o le i le trwy wlad Galatia a Phrygia, gan gadarnhau'r holl ddisgyblion.

24Daeth rhyw Iddew o'r enw Apolos i Effesus. Brodor o Alexandria ydoedd, a gu373?r huawdl, cadarn yn yr Ysgrythurau.

25Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd yr oedd yn llefaru ac yn dysgu yn fanwl y ffeithiau am Iesu, er mai am fedydd Ioan yn unig y gwyddai.

26Dechreuodd hefyd lefaru'n hy yn y synagog, a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt, ac esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach.

27A chan ei fod yn dymuno mynd drosodd i Achaia, cefnogodd y credinwyr ef, ac ysgrifennu at y disgyblion, ar iddynt ei groesawu. Ac wedi iddo gyrraedd, bu'n gynhorthwy mawr i'r rhai oedd trwy ras wedi credu,

28oherwydd yr oedd yn mynd ati'n egniol i wrthbrofi dadleuon yr Iddewon, gan ddangos ar goedd trwy'r Ysgrythurau mai Iesu oedd y Meseia.

r>