1Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.
3Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.
4Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu � gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog.
5Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn �l y rheolau.
6Y ffermwr sy'n llafurio sydd �'r hawl gyntaf ar y cnwd.
7Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth.
8Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn �l yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.
9Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw.
10Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd � gogoniant tragwyddol.
11Dyma air i'w gredu: "Os buom farw gydag ef, byddwn fyw hefyd gydag ef;
12os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau;
13os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun."
14Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngu373?ydd Duw i beidio � dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.
15Gwna dy orau i'th wneud dy hun yn gymeradwy gan Dduw, fel gweithiwr heb achos i gywilyddio am ei waith, yn ddiwyro wrth gyflwyno gair y gwirionedd.
16Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb,
17a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus;
18y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl.
19Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r s�l sydd arni yw: "Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo", a "Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni".
20Mewn tu375? mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch.
21Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.
22Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd � chalon bur.
23Paid � gwneud dim � chwestiynau ff�l a di-ddysg; fe wyddost mai codi cwerylon a wn�nt.
24Ni ddylai gwas yr Arglwydd fod yn gwerylgar, ond yn dirion tuag at bawb, yn athro da, yn ymarhous,
25yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a u373?yr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd,
26ac na dd�nt i'w pwyll a dianc o fagl y diafol, yr un a'u rhwydodd a'u caethiwo i'w ewyllys?