Ail Lythyr Paul at y Corinthiaid 12:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Y mae'n rhaid imi ymffrostio. Ni wna ddim lles, ond af ymlaen i s�n am weledigaethau a datguddiadau a roddwyd i mi gan yr Arglwydd.

2Gwn am ddyn yng Nghrist a gipiwyd, bedair blynedd ar ddeg yn �l, i fyny i'r drydedd nef � ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.

3Gwn i'r dyn hwnnw gael ei gipio i fyny i Baradwys � ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.

4Ac fe glywodd draethu'r anhraethadwy, geiriau nad oes hawl gan neb dynol i'w llefaru.

5Am hwnnw yr wyf yn ymffrostio; amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, ar wah�n i'm gwendidau.

6Ond os dewisaf ymffrostio, ni byddaf ff�l, oherwydd dweud y gwir y byddaf. Ond ymatal a wnaf, rhag i neb feddwl mwy ohonof na'r hyn y mae'n ei weld ynof neu'n ei glywed gennyf.

7A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu.

8Ynglu375?n � hyn deisyfais ar yr Arglwydd dair gwaith ar iddo'i symud oddi wrthyf.

9Ond dywedodd wrthyf, "Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth." Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf.

10Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.

11Euthum yn ff�l, ond chwi a'm gyrrodd i hyn. Oherwydd dylaswn i gael fy nghanmol gennych chwi. Nid wyf fi yn �l mewn dim i'r archapostolion hyn, hyd yn oed os nad wyf fi'n ddim.

12Cyflawnwyd arwyddion apostol yn eich plith gyda dyfalbarhad cyson, mewn arwyddion a rhyfeddodau a gwyrthiau nerthol.

13Ym mha beth y bu'n waeth arnoch chwi na'r eglwysi eraill, ond yn hyn, na f�m i yn faich arnoch chwi? Maddeuwch imi y camwedd hwn.

14Dyma fi'n barod i ddod atoch y drydedd waith. Ac nid wyf am fod yn faich arnoch. Oherwydd chwi yr wyf yn eu ceisio, nid eich eiddo; nid y plant a ddylai ddarparu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant.

15Fe wariaf fi fy eiddo yn llawen, ac fe'm gwariaf fy hunan i'r eithaf, dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi'n eich caru chwi'n fwy, a wyf fi i gael fy ngharu'n llai?

16Ond, a chaniat�u na f�m i'n dreth arnoch, eto honnir imi fod yn ddigon cyfrwys i'ch dal trwy ddichell.

17A fanteisiais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a anfonais atoch?

18Deisyfais ar Titus fynd atoch, ac anfonais ein brawd gydag ef. A fanteisiodd Titus arnoch? Onid ymddwyn yn yr un ysbryd a wnaethom ni, ac onid dilyn yr un llwybrau?

19A ydych yn tybio drwy'r amser mai ein hamddiffyn ein hunain i chwi yr ydym? Gerbron Duw yr ydym yn llefaru, yng Nghrist, a'r cwbl er adeiladaeth i chwi, fy nghyfeillion annwyl.

20Oherwydd y mae arnaf ofn na chaf chwi, pan ddof, fel y dymunwn ichwi fod, ac na'm ceir innau chwaith fel y dymunech chwi imi fod. Yr wyf yn ofni y bydd cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, difenwi, clebran, ymchwyddo, terfysgu.

21Yr wyf yn ofni rhag i'm Duw, pan ddof drachefn, fy narostwng o'ch blaen, a rhag imi orfod galaru dros lawer a oedd wedi pechu gynt, a heb edifarhau am yr amhurdeb a'r anfoesoldeb rhywiol a'r anlladrwydd a wnaethant.

/small>