1Clywch y gair hwn, fuchod Basan, sydd ym mynydd Samaria, sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus, sy'n dweud wrth eu gwu375?r, "Dewch � gwin, inni gael yfed":
2Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd, "Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch pan ddygir chwi i ffwrdd � bachau, a'r olaf ohonoch � bachau pysgota.
3Ac ewch allan trwy'r bylchau, pob un ohonoch ar ei chyfer, ac fe'ch bwrir i Harmon," medd yr ARGLWYDD.
4Dewch i Fethel a throseddu, i Gilgal a phechu fwyfwy; dygwch eich aberthau bob bore a'ch degymau bob tridiau;
5offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd, cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys; canys hyn a hoffwch, bobl Israel," medd yr Arglwydd DDUW.
6Myfi a adawodd eich dannedd yn l�n yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara ym mhob man; er hynny ni throesoch yn �l ataf," medd yr ARGLWYDD.
7Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf; rhoddais law ar un ddinas, a'i atal oddi ar un arall; glawiodd ar un cae, a gwywodd y cae na chafodd law;
8crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinas i yfed du373?r, ond heb gael digon; er hynny ni throesoch yn �l ataf," medd yr ARGLWYDD.
9Trewais chwi � malltod a llwydni; difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd; bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd; er hynny ni throesoch yn �l ataf," medd yr ARGLWYDD.
10Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft; lleddais eich llanciau �'r cleddyf, a chaethgludo eich meirch; gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau; er hynny ni throesoch yn �l ataf," medd yr ARGLWYDD.
11Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r t�n; er hynny ni throesoch yn �l ataf," medd yr ARGLWYDD.
12Hyn felly a wnaf i ti, Israel. Gan fy mod am wneud hyn i ti, bydd yn barod, Israel, i gyfarfod �'th Dduw."
13Wele, lluniwr y mynyddoedd a chr�wr y gwynt, yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw, yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch, ac yn cerdded uchelderau'r ddaear � yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.