Amos 7:1-17 BCN1988 - Bible AI

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma haid o locustiaid yn codi ar ddechrau tyfiant yr adladd, sef y cynhaeaf ar �l torri cnwd y brenin.

2Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais, "O Arglwydd DDUW, maddau! Sut y saif Jacob, ac yntau mor fychan?"

3Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. "Ni fydd hyn," medd yr ARGLWYDD.

4Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma'r Arglwydd DDUW yn galw am farn trwy d�n, a hwnnw'n difa'r dyfnder mawr, ac yn ysu'r tir hefyd.

5A dywedais, "O Arglwydd DDUW, paid! Sut y saif Jacob, ac yntau mor fychan?"

6Ac edifarhaodd yr ARGLWYDD. "Ni fydd hyn chwaith," medd yr Arglwydd DDUW.

7Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd � llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law.

8A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Beth a weli, Amos?" Atebais innau, "Llinyn plwm." A dywedodd yr Arglwydd, "Wele fi'n gosod llinyn plwm yng nghanol fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto.

9Difodir uchelfeydd Isaac a distrywir cysegrleoedd Israel; a chodaf gleddyf yn erbyn tu375? Jeroboam."

10Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, "Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tu375? Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau.

11Oherwydd fel hyn y dywed Amos: 'Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.'"

12A dywedodd Amaseia wrth Amos, "Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno.

13Paid � phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth."

14Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, "Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor;

15ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, 'Dos i broffwydo i'm pobl Israel.'

16Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD. Yr wyt ti'n dweud, 'Paid � phroffwydo yn erbyn Israel, a phaid � llefaru yn erbyn tu375? Isaac.'

17Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas; fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf; rhennir dy dir �'r llinyn; byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.'"

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>