Amos 8:1-14 BCN1988 - Bible AI

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf,

2a gofynnodd ef, "Beth a weli, Amos?" Atebais innau, "Basgedaid o ffrwythau haf." Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt byth eto.

3Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw," medd yr Arglwydd DDUW, "bod y cyrff mor niferus fel y teflir hwy'n ddi-s�n ym mhob man."

4Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenus ac yn difa tlodion y wlad,

5ac yn dweud, "Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu, inni gael gwerthu u375?d; a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth, inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl, inni gael twyllo � chloriannau anghywir,

6inni gael prynu'r tlawd am arian a'r anghenus am b�r o sandalau, a gwerthu ysgubion yr u375?d?"

7Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob, "Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.

8Onid am hyn y cryna'r ddaear nes y galara'i holl drigolion, ac y cwyd i gyd fel y Neil, a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?"

9Y dydd hwnnw," medd yr Arglwydd DDUW, "gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd, a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.

10Trof eich gwyliau yn alaru a'ch holl ganiadau yn wylofain; rhof sachliain am eich llwynau a moelni ar eich pennau. Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab; bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.

11Wele'r dyddiau yn dod," medd yr Arglwydd DDUW, "pan anfonaf newyn i'r wlad; nid newyn am fara, na syched am ddu373?r, ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.

12Crwydrant o f�r i f�r ac o'r gogledd i'r dwyrain; �nt yn �l ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD, ond heb ei gael.

13Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwu375?r ifainc yn llewygu o syched.

14Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria, ac yn dweud, 'Cyn wired � bod dy dduw yn fyw, Dan', neu, 'Cyn wired � bod dy dduw yn fyw, Beerseba' � fe syrthiant oll heb godi byth mwy."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>