1Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd rhyw Lefiad yn byw yng nghyffiniau mynydd-dir Effraim, ac fe gymerodd iddo ordderchwraig o Fethlehem Jwda.
2Ond bu'r ordderchwraig yn anffyddlon iddo; gadawodd ef a dianc adref i Fethlehem Jwda. Wedi iddi fod yno ryw bedwar mis,
3cychwynnodd ei gu373?r ar ei h�l gyda'i was a dau asyn, i'w denu hi'n �l. Daeth hi ag ef i'w chartref, a phan welodd ei thad ef yr oedd yn falch o'i gyfarfod.
4Mynnodd ei dad-yng-nghyfraith, sef tad yr eneth, iddo aros yno am dridiau, a buont yn bwyta ac yn yfed ac yn cysgu yno.
5Ar y pedwerydd dydd, wedi iddynt godi'n fore a pharatoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrth ei fab-yng-nghyfraith, "Atgyfnertha dy hun � thamaid o fara cyn cychwyn."
6Felly dyna'r ddau'n eistedd i lawr gyda'i gilydd i fwyta ac yfed; ac meddai tad yr eneth wrth y gu373?r, "Bodlona aros noson eto a'th fwynhau dy hun."
7Er i'r gu373?r godi i fynd, bu ei dad-yng-nghyfraith mor daer fel yr arhosodd yno noson arall.
8A phan gododd i gychwyn fore'r pumed diwrnod, dywedodd tad yr eneth, "Atgyfnertha dy hun."
9A buont yn hamddena hyd hwyr y dydd ac yn bwyta gyda'i gilydd. Yna, pan oedd y dyn a'i ordderch a'i lanc yn paratoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrtho, "Edrych, y mae'n hwyrhau, arhoswch heno; mae'r dydd ar ddarfod. Os arhosi yma heno a'th fwynhau dy hun, fe gewch godi'n gynnar yfory i'ch taith, a mynd adref."
10Ond ni fynnai'r dyn aros; cododd, a mynd gyda'i ddau asyn llwythog, a'i ordderch, a'i was, nes dod gyferbyn � Jebus, hynny yw Jerwsalem.
11A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, "Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi."
12Ond atebodd ei feistr, "Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled � Gibea."
13Ac meddai wedyn wrth ei was, "Tyrd, fe awn cyn belled � Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt."
14Felly ymlaen � hwy nes i'r haul fachlud arnynt yn ymyl Gibea Benjamin.
15Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgw�r y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.
16Ar hynny, dyma hen u373?r yn dod o'i waith yn y maes gyda'r hwyr. Un o fynydd-dir Effraim oedd ef, ond yn cartrefu dros dro yn Gibea; Benjaminiaid oedd pobl y lle.
17Wrth godi ei olwg, gwelodd y teithiwr ar sgw�r y dref, ac meddai'r hen u373?r, "I ble rwyt ti'n mynd, ac o ble y daethost?"
18Dywedodd yntau wrtho, "Ar daith o Fethlehem Jwda i gyffiniau mynydd-dir Effraim yr ydym ni. Un oddi yno wyf fi, yn dychwelyd adref ar �l bod ym Methlehem Jwda; ond nid oes neb wedi fy nghymryd i'w du375?.
19Y mae gennym wellt ac ebran i'n hasynnod, hefyd fara a gwin i mi a'th lawforwyn a'r gwas; nid oes ar dy weision angen un dim."
20Dywedodd yr hen u373?r, "Croeso i chwi. Fe ofalaf fi am eich anghenion i gyd; rhaid ichwi beidio � threulio'r nos ar y sgw�r."
21Aeth � hwy i'w du375? a phorthi'r asynnod; cawsant hwythau olchi eu traed a bwyta ac yfed.
22Tra oeddent yn eu mwynhau eu hunain, daeth rhai o ddihirod y dref i ymgasglu o gwmpas y tu375?, a churo ar y drws a dweud wrth yr hen u373?r oedd yn berchen y tu375?, "Tyrd �'r dyn a ddaeth i'th du375? allan, i ni gael cyfathrach ag ef."
23Aeth perchennog y tu375? allan atynt a dweud wrthynt, "Nage, frodyr, peidiwch � chamymddwyn; gan fod y dyn wedi dod i'm tu375?, peidiwch � gwneud y fath anlladrwydd.
24Dyma fy merch i, sy'n wyryf, a'i ordderch ef; dof � hwy allan i chwi eu treisio, neu wneud fel y mynnoch iddynt, ond peidiwch � gwneud y fath anlladrwydd gyda'r dyn."
25Ond ni fynnai'r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a'i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a'i cham-drin drwy'r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr.
26Yn y bore, daeth y ddynes a disgyn wrth ddrws y tu375? lle'r oedd ei meistr.
27Pan gododd ei meistr yn y bore ac agor drws y tu375? i fynd allan i gychwyn ar ei daith, dyna lle'r oedd ei ordderch wedi disgyn wrth ddrws y tu375?, a'i dwy law ar y rhiniog.
28Dywedodd wrthi, "Cod, inni gael mynd." Ond nid oedd ateb. Cododd hi ar yr asyn ac aeth adref.
29Pan gyrhaeddodd ei gartref, cymerodd gyllell, a gafael yn ei ordderch a'i darnio bob yn gymal yn ddeuddeg darn, a'u hanfon drwy holl derfynau Israel.
30Yr oedd pawb a'i gwelodd yn dweud, "Ni wnaed ac ni welwyd y fath beth, o'r dydd y daeth yr Israeliaid i fyny o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn. Edrychwch arni ac ystyried; yna mynegwch eich barn."