Barnwyr 20:1-48 BCN1988 - Bible AI

1Daeth Israel gyfan allan fel un, o Dan hyd Beerseba a thir Gilead, a galw cynulleidfa Israel at yr ARGLWYDD i Mispa.

2Ymgasglodd arweinwyr byddin holl lwythau Israel yn gynulliad o bobl yr ARGLWYDD, pedwar can mil o wu375?r traed yn dwyn cleddyf.

3Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, "Dywedwch sut y dig-wyddodd y fath gamwri."

4Atebodd y Lefiad, sef gu373?r y ddynes a lofruddiwyd, "Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;

5yna cododd dinasyddion Gibea yn f'erbyn ac amgylchynu'r tu375? liw nos, gan fwriadu fy lladd; treisiwyd fy ngordderch, a bu hi farw o'r herwydd.

6Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.

7Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr."

8Cododd yr holl bobl fel un gu373?r a dweud, "Ni ddychwel neb ohonom i'w babell na mynd yn �l adref.

9Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;

10a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel."

11Felly daeth yr holl Israeliaid at ei gilydd fel un yn erbyn y dref.

12Anfonodd llwythau Israel ddynion drwy holl lwyth Benjamin gan ddweud, "Pa gamwri yw hwn a ddigwyddodd yn eich mysg?

13Ildiwch y dihirod hyn sydd yn Gibea, inni eu rhoi i farwolaeth, a dileu'r drwg o Israel." Ond ni fynnai'r Benjaminiaid wrando ar eu perthnasau yr Israeliaid.

14Ymgasglodd y Ben-jaminiaid o'u trefi i Gibea er mwyn mynd i ryfel yn erbyn yr Israeliaid.

15Ar y dydd hwnnw rhestrwyd o drefi'r Benjaminiaid chwe mil ar hugain o ddynion yn dwyn cleddyf, ar wah�n i drigolion Gibea, a oedd yn rhestru saith gant o wu375?r dethol.

16Yn yr holl fyddin hon yr oedd pob un o'r saith gant o wu375?r dethol yn llawchwith, ac yn medru anelu carreg i drwch y blewyn heb fethu.

17Yr oedd gwu375?r Israel, ar wah�n i Benjamin, yn rhestru pedwar can mil o ddynion yn dwyn cleddyf, pob un yn rhyfelwr.

18Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, "Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Jwda sydd i arwain."

19Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn � Gibea.

20Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.

21Ond ymosododd y Ben-jaminiaid allan o Gibea, a gadael dwy fil ar hugain o blith byddin Israel yn farw ar y maes y diwrnod hwnnw.

22Cyn i fyddin pobl Israel atgyfnerthu ac ailymgynnull i ryfel yn yr un fan �'r diwrnod cynt,

23aeth yr Israeliaid i fyny i Fethel ac wylo gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a gofyn i'r ARGLWYDD, "A awn ni eto i ymladd �'n brodyr y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch!"

24Felly fe aeth yr Israeliaid i ryfela �'r Benjaminiaid yr ail ddiwrnod.

25Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch arnynt eilwaith o Gibea, a'r tro hwn gadael deunaw mil o blith byddin Israel yn farw ar y maes, a'r rheini bob un yn dwyn cleddyf.

26Felly fe aeth yr Israeliaid i gyd, a'r holl fyddin, i fyny i Fethel, ac wylo ac eistedd yno gerbron yr ARGLWYDD gan ymprydio drwy'r dydd hyd yr hwyr, ac offrymu poethoffrymau a heddoffrymau gerbron yr ARGLWYDD.

27Yr adeg honno, ym Methel yr oedd arch cyfamod Duw,

28a Phinees fab Eleasar, fab Aaron oedd yn gofalu amdani ar y pryd. Pan ofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, "A awn ni allan i ymladd eto �'n perthnasau y Ben-jaminiaid, ai peidio?" atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch, oherwydd yfory fe'u rhoddaf hwy yn eich llaw."

29Gosododd Israel filwyr cudd o amgylch Gibea,

30cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.

31Gwnaeth y Benjamin-iaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.

32Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, "Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen"; a'r Israeliaid yn dweud, "Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd."

33Yna safodd yr Israeliaid a ffurfio'u rhengoedd ger Baal-tamar, a dyma'r Israeliaid oedd wedi ymguddio yn rhuthro o'u cuddfeydd i'r gorllewin o Gibea.

34Daeth deng mil o filwyr dethol o Israel gyfan yn erbyn y Gibeaid o'r dwyrain; ond am fod brwydr chwyrn ar y pryd, ni wyddai'r Benjaminiaid fod trychineb yn dod arnynt.

35Trawodd yr ARGLWYDD wu375?r Benjamin o flaen yr Israeliaid, a'r diwrnod hwnnw lladdodd yr Israeliaid o blith Benjamin bum mil ar hugain ac un cant o wu375?r yn dwyn cleddyf.

36Gwelodd y Benjaminiaid eu bod wedi colli'r dydd. Yr oedd byddin Israel wedi ildio tir i'r Benjaminiaid am eu bod yn ymddiried yn y milwyr cudd a osodwyd ger Gibea.

37Brysiodd y milwyr cudd i ruthro ar Gibea, gan adael eu cuddfannau a tharo'r holl dref �'r cleddyf.

38Yr arwydd i fyddin Israel oddi wrth y rhai ynghudd fyddai colofn o fwg yn mynd i fyny o'r dref;

39yna byddai byddin Israel yn troi yn y frwydr. Ar y dechrau yr oedd y Benjaminiaid wedi anafu tua deg ar hugain o fyddin Israel, a meddwl yn sicr eu bod yn eu concro fel yn y frwydr flaenorol.

40Ond pan ddechreuodd y golofn fwg esgyn o'r dref i'r awyr, trodd y Benjaminiaid a gweld y dref gyfan yn wenfflam.

41Pan drodd byddin Israel arnynt, brawychwyd y Benjaminiaid o sylweddoli bod trychineb wedi eu goddiweddyd.

42Troesant i ffwrdd o flaen byddin Israel i gyfeiriad yr anialwch, ond parhaodd yr ymladd; ac yr oedd yr Israeliaid, a oedd wedi dod i'r dref, bellach yn eu mysg yn eu difa.

43Buont yn erlid y Benjaminiaid o bob tu yn ddiatal, a'u goddiweddyd i'r dwyrain o Gibea.

44Syrthiodd deunaw mil o wu375?r Benjamin, y cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.

45Trodd y gweddill a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, a daliodd yr Israeliaid bum mil ohonynt ar y priffyrdd; yna buont yn ymlid yn galed ar �l y Benjaminiaid hyd at Gidom, a lladd dwy fil ohonynt.

46Cyfanswm y rhai o Benjamin a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd pum mil ar hugain o wu375?r yn dwyn cleddyf, a'r cwbl ohonynt yn rhyfelwyr dewr.

47o'r rhai a drodd a ffoi tua'r anialwch i graig Rimmon, cyrhaeddodd chwe chant o wu375?r, a buont yn byw yng nghraig Rimmon am bedwar mis.

48Wedi i fyddin Israel droi yn ei h�l yn erbyn y Benjaminiaid, lladdasant �'r cleddyf bawb yn y dref, gan gynnwys anifeiliaid, a llosgi hefyd bob tref a ddaeth i'w meddiant.

>