Barnwyr 5:1-31 BCN1988 - Bible AI

1Y diwrnod hwnnw canodd Debora a Barac fab Abinoam fel hyn:

2Am i'r arweinwyr roi arweiniad yn Israel, am i'r bobl ymroi o'u gwirfodd, bendithiwch yr ARGLWYDD.

3Clywch, frenhinoedd! Gwrandewch, dywysogion! Canaf finnau i'r ARGLWYDD, a moliannu ARGLWYDD Dduw Israel.

4O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir, ac ymdeithio o Faes Edom, fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd, ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu du373?r.

5Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai, o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.

6Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau; aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.

7Darfu am drigolion pentrefi, darfu amdanynt yn Israel nes i mi, Debora, gyfodi, nes i mi godi yn fam yn Israel.

8Pan ddewiswyd duwiau newydd, yna daeth brwydro i'r pyrth, ac ni welwyd na tharian na gwaywffon ymhlith deugain mil yn Israel.

9Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel, y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd. Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch, chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

11Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau, ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD, buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel, pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.

12Deffro, deffro, Debora! Deffro, deffro, lleisia g�n! Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!

13Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion, do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.

14Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn, a gweiddi, 'Ar dy �l di, Benjamin, gyda'th geraint!' Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir; ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.

15Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora; bu Issachar yn ffyddlon i Barac, yn rhuthro i'r dyffryn ar ei �l. Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

16Pam yr arhosaist rhwng y corlannau i wrando ar chwiban bugeiliaid? Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

17Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen; a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau? Arhosodd Aser ar lan y m�r, ac oedi gerllaw ei gilfachau.

18Pobl a fentrodd eu heinioes hyd angau oedd Sabulon a Nafftali hefyd, ar uchelfannau maes y gad.

19Daeth brenhinoedd ac ymladd; fe ymladdodd brenhinoedd Canaan yn Taanach ger dyfroedd Megido, ond heb gymryd ysbail o arian.

20o'r nef ymladdodd y s�r, ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.

21Ysgubodd nant Cison hwy ymaith, cododd llif nant Cison yn eu herbyn. Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.

22Yna'r oedd carnau'r ceffylau'n diasbedain gan garlam gwyllt eu meirch cryfion.

23'Melltigwch Meros,' medd angel yr ARGLWYDD, 'melltigwch yn llwyr ei thrigolion, am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD, i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.'

24Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead; bendithier hi uwch gwragedd y babell.

25Am ddu373?r y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth; mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.

26Estynnodd ei llaw at yr hoelen, a'i deheulaw at ordd y llafurwyr; yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben, fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.

27Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd; rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd; lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.

28Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestr a llefain trwy'r dellt: 'Pam y mae ei gerbyd yn oedi? Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?'

29Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau, ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,

30'Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu � llances neu ddwy i bob un o'r dynion, ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw, darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?'

31Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD, ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym." Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.