Barnwyr 6:1-40 BCN1988 - Bible AI

1Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Midian am saith mlynedd.

2Am fod Midian yn drech nag Israel parat�dd yr Israeliaid lochesau iddynt eu hunain yn y mynyddoedd, a hefyd ogofeydd a chaerau.

3Bob tro y byddai'r Israeliaid wedi hau, byddai Midian ac Amalec a'r dwyreinwyr yn dod ac yn ymosod arnynt;

4byddent yn gwersyllu yn eu herbyn ac yn distrywio cnwd y ddaear cyn belled � Gasa, heb adael unrhyw beth byw yn Israel, na dafad nac ych nac asyn.

5Pan ddoent hwy a'u hanifeiliaid a'u pebyll, yr oeddent mor niferus � locustiaid; nid oedd rhifo arnynt hwy na'u camelod pan ddoent i'r wlad i'w difrodi.

6Felly aeth Israel yn dlawd iawn o achos Midian; yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.

7Wedi iddynt alw ar yr ARGLWYDD o achos Midian,

8anfonodd yr ARGLWYDD broffwyd at yr Israeliaid, a dywedodd hwnnw wrthynt, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Myfi a ddaeth � chwi i fyny o'r Aifft, a'ch rhyddhau o du375?'r caethiwed;

9achubais chwi o law'r Eifftiaid a phawb oedd yn eich gormesu, a'u gyrru allan o'ch blaen, a rhoi eu tir ichwi.

10Dywedais wrthych: Myfi yw'r ARGLWYDD, eich Duw; peidiwch ag ofni duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad. Ond ni wrandawsoch arnaf.'"

11Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian.

12Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, "Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, u373?r dewr."

13Ateb-odd Gideon ef, "Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, 'Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?'

14Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian." Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, "Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?"

15Atebodd yntau, "Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu."

16Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Yn sicr byddaf fi gyda thi, a byddi'n taro'r Midianiaid fel pe baent un gu373?r."

17Atebodd yntau, "Os cefais ffafr yn d'olwg, yna rho arwydd imi mai ti sy'n siarad � mi.

18Paid � mynd oddi yma cyn imi ddychwelyd atat a chyflwyno fy offrwm a'i osod o'th flaen." Atebodd yntau, "Fe arhosaf nes iti ddod yn �l."

19Aeth Gideon a pharatoi myn gafr a phobi bara croyw o beilliaid. Gosododd y cig ar ddysgl a rhoi'r cawl mewn padell, a'u dwyn ato dan y dderwen, a'u cyflwyno.

20Yna dywedodd angel Duw wrtho, "Cymer y cig a'r bara croyw a'u rhoi ar y graig acw, a thywallt y cawl." Gwnaeth hynny.

21Estynnodd angel yr ARGLWYDD flaen y ffon oedd yn ei law, a phan gyffyrddodd �'r cig a'r bara croyw, cododd t�n o'r graig a'u llosgi; a diflannodd angel yr ARGLWYDD o'i olwg.

22Yna fe sylweddolodd Gideon mai angel yr ARGLWYDD oedd, a dywedodd, "Gwae fi, f'Arglwydd DDUW, am imi weld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb."

23Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Heddwch iti; paid ag ofni, ni byddi farw."

24Adeiladodd Gideon allor i'r ARGLWYDD yno a'i henwi Jehofa-shalom. Y mae yn Offra Abieser hyd y dydd hwn.

25Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Cymer ych o eiddo dy dad, yr ail ych, yr un seithmlwydd, a thyn i lawr yr allor i Baal sydd gan dy dad, a thor i lawr y pren Asera sydd yn ei hymyl.

26Adeilada allor briodol i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y fangre hon; yna cymer yr ail ych a'i offrymu'n boethoffrwm ar goed yr Asera a dorraist i lawr."

27Cymerodd Gideon ddeg o'i weision a gwnaeth fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, ond gan fod arno ofn gwneud hynny liw dydd oherwydd ei deulu a phobl y ddinas, fe'i gwnaeth liw nos.

28Pan gododd pobl y ddinas yn gynnar yn y bore a gweld allor Baal wedi ei bwrw i lawr a'r pren Asera oedd yn ei hymyl wedi ei thorri, a'r ail ych wedi ei offrymu ar yr allor oedd wedi ei chodi,

29yna gofynnodd pawb i'w gilydd, "Pwy a wnaeth hyn?" Ar �l chwilio a holi, dywedasant, "Gideon fab Joas sydd wedi gwneud hyn."

30Yna dywedodd pobl y ddinas wrth Joas, "Tyrd �'th fab allan iddo gael marw, oherwydd y mae wedi bwrw i lawr allor Baal a thorri'r pren Asera oedd yn ei hymyl."

31Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, "A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr."

32A'r diwrnod hwnnw galwyd Gideon yn Jerwbbaal � hynny yw, "Bydded i Baal ddadlau ag ef" � am iddo fwrw ei allor i lawr.

33Daeth yr holl Midianiaid a'r Amaleciaid a'r dwyreinwyr ynghyd, a chroesi a gwersyllu yn nyffryn Jesreel.

34Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Gideon; chwythodd yntau'r utgorn a galw ar yr Abiesriaid i'w ddilyn.

35Anfonodd negeswyr drwy Manasse gyfan a galw arnynt hwythau hefyd i'w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy Aser, Sabulon a Nafftali, a daethant hwythau i'w cyfarfod.

36Dywedodd Gideon wrth Dduw, "Os wyt am waredu Israel drwy fy llaw i, fel yr addewaist,

37dyma fi'n gosod cnu o wl�n ar y llawr dyrnu; os bydd gwlith ar y cnu yn unig, a'r llawr i gyd yn sych, yna byddaf yn gwybod y gwaredi Israel drwof fi, fel y dywedaist."

38Felly y bu. Pan gododd fore trannoeth a hel y cnu at ei gilydd, gwasgodd ddigon o wlith ohono i lenwi ffiol �'r du373?r.

39Ond meddai Gideon wrth Dduw, "Paid � digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall �'r cnu: bydded y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd."

40Gwnaeth Duw hynny y noson honno, y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.