Caniad Solomon 1:1-17 BCN1988 - Bible AI

1C�n y caniadau, eiddo Solomon.

2Cusana fi � chusanau dy wefusau, oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,

3ac arogl dy bersawr yn hyfryd, a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru; dyna pam y mae merched yn dy garu.

4Tyn fi ar dy �l, gad inni redeg gyda'n gilydd; cymer fi i'th ystafell, O frenin. Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot, a chanmol dy gariad yn fwy na gwin; mor briodol yw iddynt dy garu!

5O ferched Jerwsalem, er fy mod yn dywyll fy lliw fel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon, yr wyf yn brydferth.

6Peidiwch � rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw, oherwydd i'r haul fy llosgi. Bu meibion fy mam yn gas wrthyf, a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd; ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.

7Fy nghariad, dywed wrthyf ymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd, ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd. Pam y byddaf fel un yn crwydro wrth ymyl praidd dy gyfeillion?

8O ti, y decaf o ferched, os nad wyt yn gwybod, yna dilyn lwybrau'r defaid, a bugeilia dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.

9F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybu i feirch cerbydau Pharo.

10Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi, a'th wddf gan emau.

11Fe wnawn iti gadwynau aur gydag addurniadau arian.

12Pan yw'r brenin ar ei wely, y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

13Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrr yn gorffwys rhwng fy mronnau.

14Y mae fy nghariad fel tusw o flodau henna o winllannoedd En-gedi.

15O mor brydferth wyt, f'anwylyd, O mor brydferth, a'th lygaid fel colomennod!

16Mor brydferth wyt, fy nghariad, O mor ddymunol! Y mae ein gwely wedi ei orchuddio � dail.

17Y cedrwydd yw trawstiau ein tu375? a'r ffynidwydd yw ei ddistiau.

rticle>