1Yr wyf fel rhosyn Saron, fel lili'r dyffrynnoedd.
2Ie, lili ymhlith drain yw f'anwylyd ymysg merched.
3Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig yw fy nghariad ymysg y bechgyn. Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.
4Cymerodd fi i'r gwindy, gyda baner ei gariad drosof.
5Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.
6Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
7Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch � deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod.
8Ust! dyma fy nghariad, dyma ef yn dod; y mae'n neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.
9Y mae fy nghariad fel gafrewig, neu hydd ifanc; dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur, yn edrych trwy'r ffenestri, ac yn syllu rhwng y dellt.
10Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf, "Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth;
11oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio, ciliodd y glaw a darfu;
12y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd, daeth yn amser i'r adar ganu, ac fe glywir c�n y durtur yn ein gwlad;
13y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir, a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd. Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth."
14Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig, yng nghysgod y clogwyni, gad imi weld dy wyneb, a chlywed dy lais, oherwydd y mae dy lais yn swynol, a'th wyneb yn brydferth.
15Daliwch inni'r llwynogod, y llwynogod bychain, sy'n difetha'r gwinllannoedd pan yw'r blodau ar y gwinwydd.
16Y mae fy nghariad yn eiddo i mi, a minnau'n eiddo iddo ef; y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lil�au.
17Cyn i awel y dydd godi, ac i'r cysgodion ddiflannu, tro ataf, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig neu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.