Caniad Solomon 4:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Mor brydferth wyt, f'anwylyd, mor brydferth wyt! Y tu �l i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod, a'th wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead.

2Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifio yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad.

3Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad, a'th enau yn hyfryd; y tu �l i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad.

4Y mae dy wddf fel tu373?r Dafydd, wedi ei adeiladu, rhes ar res, a mil o estylch yn crogi arno, y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.

5Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lil�au.

6Cyn i awel y dydd godi, ac i'r cysgodion ddiflannu, fe af i'r mynydd myrr, ac i fryn y thus.

7Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd; nid oes yr un brycheuyn arnat.

8O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon, tyrd gyda mi o Lebanon; tyrd i lawr o gopa Amana, ac o ben Senir a Hermon, o ffeuau'r llewod a mynyddoedd y llewpardiaid.

9Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon, wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad, ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.

10Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch! Y mae dy gariad yn well na gwin, ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.

11O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau m�l, y mae m�l a llaeth dan dy dafod, ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.

12Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch, gardd wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio.

13Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau, yn llawn o'r ffrwythau gorau, henna a nard,

14nard a saffrwn, calamis a sinamon, hefyd yr holl goed thus, myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.

15Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd byw yn ffrydio o Lebanon.

16Deffro, O wynt y gogledd, a thyrd, O wynt y de; chwyth ar fy ngardd i wasgaru ei phersawr. Doed fy nghariad i'w ardd, a bwyta ei ffrwyth gorau.

rticle>