1O ti, y decaf o ferched, ple'r aeth dy gariad? Pa ffordd yr aeth dy gariad, inni chwilio amdano gyda thi?
2Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd, i'r gwelyau perlysiau, i ofalu am y gerddi, ac i gasglu'r lil�au.
3Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad, ac yntau'n eiddof finnau; y mae'n bugeilio ymysg y lil�au.
4Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd, yn hardd fel Jerwsalem, mor urddasol � llu banerog.
5Tro dy lygaid oddi wrthyf, y maent yn fy nghyffroi; y mae dy wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead.
6Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad.
7Y tu �l i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad.
8Er bod trigain o freninesau a phedwar ugain o ordderchwragedd, a llancesau na ellir eu rhifo,
9y mae fy ngholomen, yr un berffaith, ar ei phen ei hun, unig blentyn ei mam, y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni. Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd, ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.
10Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog?
11Euthum i lawr i'w ardd gnau i edrych ar ffrwythau'r dyffryn, a gweld a oedd y winwydden yn blaguro, a blodau ar y pomgranadau.
12Ni wyddwn y cawn fy rhoi yng ngherbydau perthnasau'r tywysog.
13Tyrd yn �l, tyrd yn �l, Sulames! Tyrd yn �l, tyrd yn �l, gad inni dy weld. O fel yr hoffwch edrych ar y Sulames yn dawnsio rhwng y rhengoedd!