Caniad Solomon 7:1-13 BCN1988 - Bible AI

1Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau, O ferch y tywysog! Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau o waith crefftwr medrus.

2Y mae dy fogail fel ffiol gron nad yw byth yn brin o win cymysg; y mae dy fol fel pentwr o wenith wedi ei amgylchynu gan lil�au.

3Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig.

4Y mae dy wddf fel tu373?r ifori, a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon, ger mynedfa Bath-rabbim; y mae dy drwyn fel tu373?r Lebanon, sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.

5Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmel a gwallt dy ben fel porffor, a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.

6Mor brydferth, mor hardd wyt, fy anwylyd, y fwyaf dymunol.

7Y mae dy gorff fel palmwydden, a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.

8Dywedais, "Dringaf y balmwydden, a gafael yn ei brigau." Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin, ac arogl dy anadl fel afalau,

9a'th wefusau fel y gwin gorau yn llifo'n esmwyth mewn cariad, ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.

10Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad, ac yntau'n fy chwennych.

11Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes, a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.

12Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd, i edrych a yw'r winwydden yn blaguro, a'i blodau yn agor, a'r pomgranadau yn blodeuo; yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.

13Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl; o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau, ffrwythau newydd a hen a gedwais i ti, fy nghariad.

rticle>