Daniel 1:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gwarchae arni.

2A rhoddodd yr Arglwydd Jehoiacim brenin Jwda yn ei law, a rhai o lestri tu375? Dduw, ac aeth yntau � hwy i wlad Sinar a'u cadw yn nhrysordy ei dduw.

3Yna gorchmynnodd y brenin i Aspenas, ei brif swyddog, ddewis, o blith teulu brenhinol Israel a'r penaethiaid,

4rai bechgyn golygus heb unrhyw nam corfforol arnynt, yn hyddysg ym mhob gwyddor, yn ddeallus a gwybodus, ac yn gymwys i wasanaethu llys y brenin, ac iddo'u trwytho yn ll�n ac iaith y Caldeaid.

5Trefnodd y brenin iddynt dderbyn bwyd a gwin bob dydd o'i fwrdd ei hun, a chael eu hyfforddi am dair blynedd cyn mynd yn weision i'r llys.

6Yn eu mysg yr oedd Jwdeaid, o'r enwau Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia;

7ond galwodd y prif swyddog Daniel yn Beltesassar, Hananeia yn Sadrach, Misael yn Mesach, ac Asareia yn Abednego.

8Penderfynodd Daniel beidio �'i halogi ei hun � bwyd a gwin o fwrdd y brenin, ac erfyniodd ar y prif swyddog i'w arbed rhag cael ei halogi.

9Parodd Duw i'r prif swyddog ymddwyn yn ffafriol a charedig at Daniel,

10ond dywedodd y prif swyddog wrth Daniel, "Rwy'n ofni f'arglwydd frenin; ef sydd wedi pennu'ch bwyd a'ch diod, a phe sylwai eich bod yn edrych yn fwy gwelw na'ch cyfeillion byddech yn peryglu fy mywyd."

11Dywedodd Daniel wrth y swyddog a osododd y prif swyddog i ofalu am Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia,

12Rho brawf ar dy weision am ddeg diwrnod: rhodder inni lysiau i'w bwyta a du373?r i'w yfed,

13ac wedyn cymharu'n gwedd ni a gwedd y bechgyn sy'n bwyta o fwyd y brenin. Yna gwna �'th weision fel y gweli'n dda."

14Cydsyniodd yntau, a'u profi am ddeg diwrnod.

15Ac ymhen y deg diwrnod yr oeddent yn edrych yn well ac yn fwy graenus na'r holl fechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin.

16Felly cadwodd y swyddog y bwyd a'r gwin, a rhoi llysiau iddynt.

17Rhoddodd Duw i'r pedwar bachgen wybod a deall pob math o lenyddiaeth a gwyddor; a chafodd Daniel y gallu i ddatrys pob gweledigaeth a breuddwyd.

18Pan ddaeth yr amser a benodwyd gan y brenin i'w dwyn i'r llys, cyflwynodd y prif swyddog hwy i Nebuchadnesar.

19Ar �l i'r brenin siarad � hwy, ni chafwyd neb yn eu mysg fel Daniel, Hananeia, Misael ac Asareia; felly daethant hwy yn weision i'r brenin.

20A phan fyddai'r brenin yn eu holi ar unrhyw fater o ddoethineb a deall, byddai'n eu cael ddengwaith yn well na holl ddewiniaid a swynwyr ei deyrnas.

21A bu Daniel yno hyd flwyddyn gyntaf y Brenin Cyrus.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>