Daniel 3:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Gwnaeth y Brenin Nebuchadnesar ddelw aur drigain cufydd o uchder a chwe chufydd o led, a'i gosod yng ngwastadedd Dura yn nhalaith Babilon.

2A gwysiodd y Brenin Nebuchadnesar y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau i ddod ynghyd i gysegru'r ddelw a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar.

3Yna daeth y tywysogion, y penaethiaid, y pendefigion, y rhaglawiaid, y trysorwyr, y barnwyr, y cyfreithwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau at ei gilydd i gysegru'r ddelw a wnaeth Nebuchadnesar, a sefyll o'i blaen.

4Gwaeddodd y cyhoeddwr yn uchel, "Dyma'r gorchymyn i chwi bobloedd, genhedloedd ac ieithoedd.

5Pan glywch su373?n y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiwch ac addoli'r ddelw aur a wnaeth y Brenin Nebuchadnesar.

6Pwy bynnag sy'n gwrthod syrthio ac addoli, caiff ei daflu ar unwaith i ganol ffwrn o d�n poeth."

7Felly, cyn gynted ag y clywodd yr holl bobl su373?n y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, syrthiodd y bobloedd a'r cenhedloedd a'r ieithoedd ac addoli'r ddelw aur a wnaeth Nebuchadnesar.

8Dyna'r adeg y daeth rhai o'r Caldeaid � chyhuddiad yn erbyn yr Iddewon,

9a dweud wrth y Brenin Nebuchadnesar, "O frenin, bydd fyw byth!

10Rhoddaist orchymyn, O frenin, fod pawb a glywai su373?n y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn, i syrthio ac addoli'r ddelw aur,

11a bod pob un sy'n gwrthod syrthio ac addoli i'w daflu i ganol ffwrnais o d�n poeth.

12Y mae rhyw Iddewon a benodaist yn llywodraethwyr yn nhalaith Babilon � Sadrach, Mesach ac Abednego � heb gymryd dim sylw ohonot, O frenin. Nid ydynt yn gwasanaethu dy dduwiau, nac yn addoli'r ddelw aur a wnaethost,

13Yna, mewn tymer wyllt, anfonodd Nebuchadnesar am Sadrach, Mesach ac Abednego. Pan ddygwyd hwy o flaen y brenin,

14dywedodd, "Sadrach, Mesach ac Abednego, a yw'n wir nad ydych yn gwasanaethu fy nuwiau i nac yn addoli'r ddelw aur a wneuthum?

15Yn awr, a ydych yn barod i syrthio ac addoli'r ddelw a wneuthum, pan glywch su373?n y corn, y pibgorn, y delyn, y trigon, y crythau, a'r bagbib, a phob math o offeryn? Os na wnewch, teflir chwi ar unwaith i ganol ffwrnais o d�n poeth. Pa dduw a all eich gwaredu o'm gafael?"

16Atebodd Sadrach, Mesach ac Abednego y brenin, "Nid oes angen i ni dy ateb ynglu375?n � hyn.

17Y mae'r Duw a addolwn ni yn alluog i'n hachub, ac fe'n hachub o ganol y ffwrnais danllyd ac o'th afael dithau, O frenin;

18a hyd yn oed os na wna, yr ydym am i ti wybod, O frenin, na wasanaethwn ni dy dduwiau nac addoli'r ddelw aur a wnaethost."

19Yna cynddeiriogodd Nebuchadnesar, a newid ei agwedd tuag at Sadrach, Mesach ac Abednego.

20Gorchmynnodd dwymo'r ffwrnais yn seithwaith poethach nag arfer, ac i filwyr praff o'i fyddin rwymo Sadrach, Mesach ac Abednego a'u taflu i'r ffwrnais d�n.

21Felly rhwymwyd y tri yn eu dillad � cotiau, crysau a chapiau � a'u taflu i ganol y ffwrnais d�n.

22Yr oedd gorchymyn y brenin mor chwyrn, a'r ffwrnais mor boeth,

23yswyd y dynion oedd yn cario Sadrach, Mesach ac Abednego gan fflamau'r t�n, a syrthiodd y tri gwron, Sadrach, Mesach ac Abednego, yn eu rhwymau i ganol y ffwrnais d�n.

24Yna neidiodd Nebuchadnesar ar ei draed mewn syndod a dweud wrth ei gynghorwyr, "Onid tri dyn a daflwyd gennym yn rhwym i ganol y t�n?" "Gwir, O frenin," oedd yr ateb.

25Ond," meddai yntau, "rwy'n gweld pedwar o ddynion yn cerdded yn rhydd ynghanol y t�n, heb niwed, a'r pedwerydd yn debyg i un o feibion y duwiau."

26Yna aeth Nebuchadnesar at geg y ffwrnais a dweud, "Sadrach, Mesach ac Abednego, gweision y Duw Goruchaf, dewch allan a dewch yma." A daeth Sadrach, Mesach ac Abednego allan o ganol y t�n.

27Pan ddaeth tywysogion, penaethiaid, pendefigion a chynghorwyr y brenin at ei gilydd, gwelsant nad oedd y t�n wedi cyffwrdd � chyrff y tri. Nid oedd gwallt eu pen wedi ei ddeifio, na'u dillad wedi eu llosgi, ac nid oedd arogl t�n arnynt.

28A dywedodd Nebuchadnesar, "Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach ac Abednego, a anfonodd ei angel i achub ei weision, a ymddiriedodd ynddo a herio gorchymyn y brenin, a rhoi eu cyrff i'r t�n yn hytrach na gwasanaethu ac addoli unrhyw dduw ond eu Duw eu hunain.

29Yr wyf yn gorchymyn fod unrhyw un, beth bynnag fo'i bobl, ei genedl, neu ei iaith, sy'n cablu Duw Sadrach, Mesach ac Abednego yn cael ei rwygo'n ddarnau, a bod ei du375? i'w droi'n domen. Nid oes duw arall a all waredu fel hyn."

30Yna parodd y brenin lwyddiant i Sadrach, Mesach ac Abednego yn nhalaith Babilon.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>